Pwy sy'n cael Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth

Mae pawb sy’n gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth bellach wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Er mwyn ei gael mae angen i chi gael digon o flynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol.

Mae angen i chi hefyd fod naill ai:

  • yn ddyn a anwyd cyn 6 Ebrill 1951
  • yn fenyw a anwyd cyn 6 Ebrill 1953

Os cawsoch eich geni ar y dyddiadau hyn neu ar ôl y dyddiadau hyn, bydd rhaid i chi wneud cais am Bensiwn newydd y Wladwriaeth yn lle hynny.

Byddwch eisoes wedi gwneud cais am eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth oni bai eich bod wedi oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Eich blynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol

Blwyddyn gymhwyso Yswiriant Gwladol yw blwyddyn pan wnaethoch un neu fwy o’r canlynol:

Nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd eu hangen arnoch

Mae nifer y blynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol sydd eu hangen arnoch i gael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn ddyn mae angen y canlynol arnoch fel arfer:

1 flwyddyn gymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1945 a 1951 11 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1945

Os ydych yn fenyw mae angen y canlynol arnoch fel arfer:

  • 1 flwyddyn gymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1950 a 1953
  • 10 mlynedd gymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1950

Efallai y byddwch yn dal yn gymwys os oes gennych lai o flynyddoedd cymhwyso. I wirio, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn neu’r Ganolfan Bensiwn Ryngwladol os ydych yn byw dramor.

Mae nifer y blynyddoedd cymhwyso o gyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd gennych yn effeithio ar swm Pensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael.

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Efallai y gallwch gynyddu neu etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth os oes gennych gymar neu bartner sifil.

Efallai y gallwch gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth os naill ai:

  • nad ydych yn gymwys am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • mae eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £93.60 yr wythnos

Efallai y gallwch etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth gan eich priod neu bartner sifil os naill ai:

  • nad ydych yn gymwys am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • mae eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £156.20 yr wythnos

Os ydych yn drawsryweddol

Efallai effeithir ar eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn berson trawsryweddol ac rydych:

  • wedi cael eich geni rhwng 24 Rhagfyr 1919 a 3 Ebrill 1945

  • wedi gwneud cais am Bensiwn y Wladwriaeth cyn 4 Ebrill 2005

  • yn gallu darparu tystiolaeth bod eich llawdriniaeth ailbennu rhywedd wedi cymryd lle cyn 4 Ebrill 2005

Darganfyddwch fwy a chysylltwch â’r Tîm Ailbennu Rhywedd (GR).

Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth os ydych wedi newid eich rhywedd yn gyfreithiol ac wedi dechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 4 Ebrill 2005 – byddwch eisoes yn hawlio yn seiliedig ar eich rhywedd cyfreithiol.

Os nad ydych yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth

Efallai eich bod yn gymwys ar gyfer Credyd Pensiwn neu budd-daliadau a chymorth ariannol eraill.