Faint fyddwch yn ei gael

Mae faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a gewch yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

£169.50 yr wythnos yw’r Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn.

Efallai y bydd rhaid i chi dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn ddyn a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951 neu’n fenyw a anwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 1953, byddwch yn cael Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn lle hynny.

Cymwys ar gyfer y swm llawn

I gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn mae angen nifer penodol o flynyddoedd cymhwyso o Yswiriant Gwladol arnoch.

Os ydych yn ddyn mae angen y canlynol arnoch fel arfer:

  • 30 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1945 a 1951
  • 44 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1945

Os ydych yn fenyw mae angen y canlynol arnoch chi fel arfer:

  • 30 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni rhwng 1950 a 1953 -
  • 39 o flynyddoedd cymhwyso os cawsoch eich geni cyn 1950

Os oes gennych lai na’r nifer llawn o flynyddoedd cymhwyso, bydd eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llai na £169.50 yr wythnos.

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i ddarganfod faint o flynyddoedd cymhwyso sydd gennych.

Beth sy’n cyfrif fel blwyddyn gymhwyso Yswiriant Gwladol

Mae blwyddyn gymhwyso yn cyfrif os, yn y flwyddyn honno, mae un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol:

Pryd y gallwch gael mwy na Phensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn

Efallai y cewch fwy os:

Gallwch ohirio hyd yn oed os ydych wedi dechrau cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Mae Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu 1% am bob 5 wythnos y byddwch yn gohirio.

Cynnydd blynyddol

Mae Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn gan b’un bynnag yw’r uchaf o’r canlynol:

  • enillion - y twf canrannol cyfartalog mewn cyflogau (ym Mhrydain Fawr)
  • prisiau - y twf canrannol mewn prisiau yn y DU fel y’i mesurwyd gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)
  • 2.5%

Budd-daliadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w cael

Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Gredyd Pensiwn, hyd yn oed os ydych wedi cynilo arian ar gyfer ymddeoliad.

Os oes gennych anabledd a bod rhywun yn helpu i ofalu amdanoch, efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gweini. Efallai eich bod yn gymwys i gael budd-daliadau eraill a chymorth ariannol.

Mae taliadau Cynnydd Oedolion Dibynnol wedi dod i ben.