Trosolwg

Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n ddigon difrifol fel bod angen rhywun arnoch i helpu i ofalu amdanoch.

Mae yna ffordd wahanol o wneud cais os ydych yn nesáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd bod gennych salwch sy’n cyfyngu ar fywyd).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) a fformat hawdd i’w ddarllen.

Mae’n cael ei dalu ar 2 gyfradd wahanol ac mae faint a gewch yn dibynnu ar lefel y gofal sydd ei angen arnoch oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd.

Gallech gael £73.90 neu £110.40 yr wythnos i helpu gyda chymorth personol os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

Nid yw’n cynnwys anghenion symudedd.

Gallech gael Credyd Pensiwn ychwanegol, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor os ydych yn cael Lwfans Gweini.

Nid oes rhaid i chi gael rhywun yn gofalu amdanoch er mwyn gwneud cais.

Os oes gennych ofalwr, efallai y gallent cael Lwfans Gofalwr os oes gennych anghenion gofal sylweddol.

Os ydych yn byw yn yr Alban

Bydd angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn yn lle Lwfans Gweini.

Os ydych chi’n symud o Gymru neu Loegr i’r Alban

Os ydych chi’n cael Lwfans Gweini a’n symud o Gymru neu Loegr i’r Alban, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r DWP. Byddwch yn cael eich symud yn awtomatig i Daliad Anabledd Oedran Pensiwn.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r DWP a gwneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn os ydych naill ai:

  • wedi gwneud cais am Lwfans Gweini ac rydych yn aros am benderfyniad
  • wedi herio penderfyniad a’n aros i glywed os ydyw wedi newid

Os ydych yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr

Os ydych yn cael Taliad Anabledd Oedran Pensiwn, rhaid i chi:

Bydd eich Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn dod i ben 13 wythnos ar ôl i chi symud. Gwnewch gais am Lwfans Gweini cyn gynted ag y byddwch yn symud i Gymru neu Loegr. Os na wnewch hynny, gallai eich taliadau gael eu heffeithio.