Beth fyddwch yn ei gael

Mae Lwfans Gweini yn cael ei dalu bob wythnos ar 2 gyfradd wahanol - mae’r un a gewch yn dibynnu ar lefel yr help sydd ei angen arnoch.

Nid yw Lwfans Gweini yn amodol ar brawf modd - ni fydd yr hyn rydych yn ei ennill na faint sydd gennych mewn cynilion yn effeithio ar yr hyn rydych yn ei gael.

Cyfraddau Lwfans Gweini

Cyfradd Lefel y cymorth sydd ei angen arnoch
Cyfradd is - £72.65 Cymorth aml neu oruchwyliaeth gyson yn ystod y dydd, neu oruchwyliaeth gyda’r nos
Cyfradd uwch - £108.55 Cymorth neu oruchwyliaeth trwy gydol y dydd a’r nos, os ydy gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud gall bod gennych 12 mis neu’n llai i fyw.

Os bydd eich amgylchiadau’n newid, fe allech chi gael cyfradd wahanol. Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau.

Gallech gael Credyd Pensiwn ychwanegol, Budd-dal Tai neu Ostyngiad mewn Treth Cyngor os ydych yn cael Lwfans Gweini - gwiriwch gyda’r llinell gymorth neu’r swyddfa sy’n delio â’ch budd-dal.

Os ydych yn cael Lwfans Gweini Cyson ar yr un pryd, bydd eich Lwfans Gweini yn cael ei leihau gan swm y Lwfans Gweini Cyson a gewch.

Sut rydych yn cael eich talu

Mae’r holl fudd-daliadau yn cael eu talu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.