Ar gyfer beth mae PIP

Gall Taliad Annibyniaeth Personol helpu gyda chostau byw ychwanegol os oes gennych y canlynol:

  • gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol neu anabledd hirdymor
  • anhawster yn gwneud tasgau bob dydd penodol neu symud o gwmpas oherwydd eich cyflwr

Gallwch gael PIP hyd yn oed os ydych yn gweithio, gyda chynilion neu’n cael y rhan fwyaf o fudd-daliadau eraill.

Gallwch hefyd ddarllen am PIP yn Saesneg (English).

Sut mae PIP yn gweithio

Mae 2 ran i PIP:

  • rhan bywyd bob dydd – os ydych angen cymorth gyda thasgau bywyd bob dydd
  • rhan symudedd – os ydych angen cymorth gyda symud o gwmpas

Mae p’un a ydych yn cael un elfen neu ddwy a beth fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar ba mor anodd rydych yn cael tasgau bob dydd a symud o gwmpas.

Os ydych yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd), byddwch yn cael y rhan bywyd bob dydd yn awtomatig. Bydd p’un a ydych yn cael yr elfen symudedd yn dibynnu ar eich anghenion. Darganfyddwch fwy am sut i wneud cais a faint fyddwch yn ei gael os ydych yn agosáu at ddiwedd oes.

Y rhan bywyd bob dydd

Gallech gael y rhan bywyd bob dydd o PIP os ydych angen help gyda phethau fel:

  • paratoi bwyd
  • bwyta ac yfed
  • rheoli eich meddyginiaethau neu driniaethau
  • ymolchi a chael bath
  • defnyddio’r toiled
  • gwisgo a dadwisgo
  • darllen
  • rheoli eich arian
  • cymdeithasu a bod o gwmpas pobl eraill
  • siarad, gwrando a deall

Rhan Symudedd

Efallai y gallwch gael y rhan symudedd o PIP os ydych angen cymorth gyda:

  • gweithio allan llwybr a’i ddilyn
  • symud o gwmpas yn gorfforol
  • gadael eich cartref

Nid oes rhaid i chi gael anabledd corfforol i gael y rhan symudedd. Efallai y gallwch hefyd fod yn gymwys os ydych ag anhawster symud o gwmpas oherwydd cyflwr iechyd gwybyddol neu feddyliol, megis pryder.

Sut mae anhawster gyda thasgau yn cael ei asesu

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn asesu pa mor anodd y mae tasgau bob dydd a symudedd i chi eu cyflawni. Ar gyfer pob tasg byddant yn edrych ar:

  • os allwch ei gwneud yn ddiogel
  • pa mor hir y mae’n ei chymryd i chi
  • p’un a ydych angen cymorth i’w gwneud, gan berson neu ddefnyddio offer ychwanegol

Gallai eich gofalwr gael Lwfans Gofalwr os ydych ag anghenion gofal sylweddol.

Pa mor aml y mae eich cyflwr yn effeithio ar dasgau

I gael PIP mae’n rhaid i chi brofi anhawster gyda thasgau y rhan fwyaf o’r amser. Mae hyn yn golygu eich bod yn disgwyl cael anhawster mwy na hanner y diwrnodau dros gyfnod o 12 mis.

Help gyda PIP

Os ydych angen cymorth i ddeall neu wneud cais am PIP gallwch:

Efallai y byddwch yn gallu cael ymweliad cartref gan swyddog yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i’ch helpu gyda’ch cais. Gofynnwch i’r ymgynghorydd pan fyddwch chi’n ffonio llinell ffôn ceisiadau newydd PIP.

Os ydych chi’n byw yn yr Alban

Mae angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedolion (ADP) yn lle PIP.

Os ydych chi’n symud o’r Alban i Loegr neu Gymru

Os ydych chi’n cael ADP ac yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr, mae’n rhaid i chi:

Bydd eich ADP yn stopio 13 wythnos ar ôl i chi symud - gwnewch gais am PIP cyn gynted â phosib ar ôl symud neu gallai taliadau gael eu heffeithio.

Os ydych chi’n symud o Gymru neu Loegr i’r Alban

Os ydych chi’n cael PIP ac yn symud o Gymru neu Loegr i’r Alban, mae’n rhaid i chi:

Rhaid i chi hefyd ddweud wrth DWP a gwneud cais newydd am ADP os ydych nail ai:

  • yn aros am ganlyniad cais am PIP
  • wedi herio penderfyniad am eich cais am PIP

Bydd eich PIP yn stopio 13 wythnos ar ôl i chi symud – gwnewch gais am ADP cyn gynted â phosibl ar ôl symud neu gallai eich taliadau gael eu heffeithio.

Os cewch Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)

Mae Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn cael ei ddisodli gan PIP i’r rhan fwyaf o oedolion. Byddwch yn parhau i gael DLA os:

  • ydych o dan 16 oed
  • cawsoch eich geni ar neu cyn 8 Ebrill 1948

Os cawsoch eich geni ar ôl 8 Ebrill 1948, bydd DWP yn eich gwahodd i wneud cais am PIP. Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes bydd DWP yn ysgrifennu atoch am eich DLA oni bai fod eich amgylchiadau’n newid.