Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant
Trosolwg
Gall Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant helpu gyda chostau ychwanegol gofalu am blentyn sydd:
- o dan 16 oed
- yn cael anawsterau cerdded neu angen llawer mwy o ofal na phlentyn o’r un oed nad oes ganddynt anabledd
Bydd angen iddynt fodloni yr holl anghenion cymhwysedd.
Mae’r gyfradd DLA rhwng £29.20 a £187.45 yr wythnos yn dibynnu ar y lefel o gymorth sydd angen ar y plentyn.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (Saesneg) ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL) a fformat (hawdd ei ddarllen)
Os yw’ch plentyn yn byw yn yr Alban
Mae angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Plant yn lle DLA i blant.
Os bydd eich plentyn yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr
Os yw’ch plentyn yn cael Taliad Anabledd Plant, mae’n rhaid i chi:
-
gwneud cais newydd am DLA i blant
Bydd Social Security Scotland yn dweud wrthych pryd y bydd eich Taliad Anabledd Plant yn stopio.
Gwnewch gais am DLA i blant cyn gynted ag y bydd eich plentyn yn symud i Gymru neu Loegr. Os na fyddwch yn gwneud, gallai eich taliadau gael eu heffeithio.
Os yw’ch plentyn yn symud o Loegr neu Gymru i’r Alban
Os yw’ch plentyn yn cael DLA i blant ac yn symud o Loegr neu Gymru i’r Alban, rhaid i chi:
- dweud wrth y DWP eu bod wedi symud
- gwneud cais newydd am Daliad Anabledd Plant gan Social Security Scotland
Bydd DLA eich plentyn yn parhau am hyd at 13 wythnos ar ôl iddynt symud i’r Alban. Gwnewch gais am Daliad Anabledd Plant cyn gynted â phosibl ar ôl symud neu gallai eich taliadau gael eu heffeithio.
Rhaid i chi ddweud wrth DWP a gwneud cais am Daliad Anabledd Plant os:
- yw eich plentyn yn aros am ganlyniad cais DLA i blant
- rydych chi wedi herio canlyniad cais DLA i blant