Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant

Neidio i gynnwys y canllaw

Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Rhaid i chi gysylltu â llinell gymorth y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) os:

  • yw manylion personol eich plentyn yn newid, er enghraifft eu henw, cyfeiriad neu feddyg
  • yw lefel yr help sydd ei angen arnynt neu eu cyflwr yn newid
  • yw eu cyflwr wedi gwaethygu ac nid oes disgwyl iddynt fyw mwy na 12 mis
  • ydynt yn mynd i’r ysbyty neu gartref gofal
  • ydynt yn bwriadu mynd dramor am fwy na 4 wythnos
  • ydynt yn cael eu carcharu neu eu cadw yn y ddalfa
  • yw eu statws mewnfudo wedi newid, os nad ydynt yn ddinesydd Prydeinig

Gallech gael eich cludo i’r llys neu orfod talu cosb os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau eich plentyn .

Gall newid effeithio ar faint o DLA y mae eich plentyn yn ei gael. Ni fydd hyn fel arfer yn effeithio ar eu DLA os ydynt yn mynd:

  • i mewn i gartref gofal awdurdod lleol am lai na 28 diwrnod
  • i mewn i ysbyty
  • dramor am lai na 13 wythnos
  • dramor am lai na 26 wythnos i gael triniaeth feddygol ar gyfer cyflwr a ddechreuodd cyn iddynt adael

Os bydd eich plentyn yn symud i’r Alban

Os yw’ch plentyn yn cael DLA a’i fod yn symud i’r Alban, rhaid i chi roi gwybod am hyn drwy ffonio’r llinell gymorth DLA.

Byddant yn trefnu i’ch plentyn gael Taliad Anabledd Plant yn lle hynny. Nid oes angen i chi wneud cais newydd am Daliad Anabledd Plant.

Bydd eich DLA yn stopio 13 wythnos ar ôl i’ch plentyn symud - rhowch wybod amdanynt yn symud cyn gynted â phosibl ar ôl symud neu gall eich taliadau cael eu heffeithio.

Ffoniwch y llinell gymorth DLA

Ffôn: 0800 121 4600
Ffôn testun: 0800 121 4523
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 121 4600
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth cyfnewid fideo os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Cael gwybod am daliadau galwadau