Cyfraddau DLA i blant

Mae Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant yn fudd-dal di-dreth sy’n cynnwys 2 elfen (rhannau). Efallai y gall y plentyn fod yn gymwys am un neu ddau o’r elfennau.

Elfen ofal

Elfen ofal Cyfradd wythnosol
Isaf £28.70
Canol £72.65
Uwch £108.55

Elfen symudedd

Elfen symudedd Cyfradd wythnosol
Isaf £28.70
Uwch £75.75

Sut mae DLA i blant yn cael ei dalu

Fel rheol, telir DLA bob 4 wythnos ar ddydd Mawrth.

Os bydd eich dyddiad talu ar ŵyl banc, fel arfer cewch eich talu cyn gŵyl y banc. Ar ôl hynny byddwch yn parhau i gael eich talu fel arfer.

Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans yn cael eu talu i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

Cymorth ychwanegol

Efallai y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr os ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am blentyn sy’n cael y gyfradd gofal ganol neu uchaf o DLA.