Pan mae eich plentyn yn cyrraedd 16

Bydd angen i’ch plentyn wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) pan fyddant yn 16 oed.

Pan fyddant yn gwneud cais am PIP

Bydd eich plentyn yn cael llythyr yn eu gwahodd i wneud cais am PIP. Anfonir y llythyr:

  • ychydig ar ôl eu pen-blwydd yn 16 oed
  • pan fyddant yn gadael yr ysbyty, pe byddent yn yr ysbyty ar eu pen-blwydd yn 16 oed
  • tua 20 wythnos cyn i’w dyfarniad DLA ddod i ben, pe byddent yn cael DLA o dan y rheolau ar gyfer pobl sydd efallai gyda 12 mis neu’n llai i fyw

Bydd taliadau DLA eich plentyn yn dod i ben oni bai eu bod yn gwneud cais am PIP erbyn y dyddiad a roddir yn y llythyr.

Os byddant yn gwneud cais erbyn y dyddiad a roddir yn y llythyr, byddant yn parhau i dderbyn DLA nes bod eu cais yn cael ei asesu.

Dylent gysylltu â DLA i newid y manylion talu a chael DLA wedi’i dalu i’w cyfrif banc eu hunain.

Os oes angen help ar eich plentyn i reoli eu budd-daliadau

Os oes gan eich plentyn anabledd difrifol ac yn methu rheoli ei fudd-daliadau eu hunain, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais i reoli eu materion ar eu rhan unwaith y byddant yn troi’n 16 oed. Gelwir hyn yn dod yn ‘benodai’.

Darganfyddwch fwy am ddod yn benodai a sut i wneud cais.

I wneud cais i ddod yn benodai ar gyfer cais PIP eich plentyn, cysylltwch â’r llinell ymholiadau PIP yn y Ganolfan Gwasanaeth Anabledd.