Cymhwyster

Fel arfer, i fod yn gymwys i gael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) ar gyfer plant mae rhaid i’r plentyn:

  • bod o dan 16 oed – rhaid i unrhyw un dros 16 oed wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • angen gofal ychwanegol neu fod ag anawsterau cerdded
  • bod yng Nghymru, Lloegr, gwlad Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir pan fyddwch yn gwneud cais - mae yna rai eithriadau, fel aelodau teulu’r Lluoedd Arfog
  • wedi byw ym Mhrydain Fawr am o leiaf 6 o’r 12 mis diwethaf, os ydynt dros 3 oed
  • bod yn preswylio fel arfer yn y DU, Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
  • peidio â bod yn ddarostyngedig i reoli mewnfudo

Mae rhai eithriadau i’r amodau hyn os yw’r plentyn yn byw mewn neu’n dod o wlad AEE neu’r Swistir.

Mae’r rheolau’n wahanol yng Ngogledd Iwerddon.

Os yw’ch plentyn yn byw yn yr Alban ar hyn o bryd, mae angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Plant yn lle.

Gallwch wneud cais am DLA ar gyfer plant os ydych yn gweithio neu’n ddi-waith.

Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig

Os ydych chi a’ch plentyn o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, fel rheol mae angen statws sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE i hawlio DLA ar gyfer eich plentyn.

Y dyddiad cau i wneud cais i’r cynllun oedd 30 Mehefin 2021 i’r mwyafrif o bobl, ond efallai y byddwch chi’n dal i allu gwneud cais. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.

Plant o dan 3 oed

Mae rhaid bod plentyn o dan 6 mis oed fod wedi byw ym Mhrydain Fawr am o leiaf 13 wythnos.

Mae rhaid bod plentyn rhwng 6 mis a 3 oed fod wedi byw ym Mhrydain Fawr am o leiaf 26 o’r 156 wythnos ddiwethaf.

Nid yw’r rheolau preswylio fel arfer yn berthnasol os ydy weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud gall fod gan y plentyn 12 mis neu’n llai i fyw.

Anabledd neu gyflwr iechyd y plentyn

Mae rhaid i anabledd neu gyflwr iechyd y plentyn olygu bod o leiaf un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae angen llawer mwy o ofal arnynt na phlentyn o’r un oed nad oes ganddo anabledd
  • maent yn cael anhawster symud o gwmpas

Mae’n rhaid eu bod wedi cael yr anawsterau hyn am o leiaf 3 mis a disgwyl iddynt bara am o leiaf 6 mis.

Os ydy gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud gall fod ganddynt 12 mis neu’n llai i fyw, nid oes angen iddynt fod wedi cael yr anawsterau hyn am 3 mis.

Elfen ofal

Mae’r gyfradd y mae’r plentyn yn ei chael yn dibynnu ar lefel edrych ar ôl ei angen, er enghraifft:

  • cyfradd isaf - help am rywfaint o’r dydd
  • cyfradd ganol - cymorth aml neu oruchwyliaeth gyson yn ystod y dydd, goruchwyliaeth gyda’r nos neu rywun i helpu tra’u bod ar ddialysis
  • cyfradd uwch – cymorth neu oruchwyliaeth trwy gydol y dydd a’r nos, os ydy gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud gall bod ganddynt 12 mis neu’n llai i fyw.

Elfen symudedd

Mae’r gyfradd y mae’r plentyn yn ei chael yn dibynnu ar lefel yr help y mae arno ei angen i fynd o gwmpas, er enghraifft:

  • cyfradd isaf - gallant gerdded ond mae angen help a/neu oruchwyliaeth arnynt yn yr awyr agored
  • cyfradd uchaf - ni allant gerdded, dim ond heb bellter difrifol y gallant gerdded, gallent fynd yn sâl iawn os ydynt yn ceisio cerdded neu os ydynt yn ddall neu â nam difrifol ar eu golwg

Mae hefyd derfynau oedran i dderbyn yr elfen symudedd:

  • cyfradd isaf - mae rhaid i’r plentyn fod yn 5 oed neu’n hŷn
  • cyfradd uchaf - mae rhaid i’r plentyn fod yn 3 oed neu’n hŷn

Os yw’ch plentyn o dan yr oedrannau hyn a’ch bod yn hawlio DLA ar eu cyfer, dylid anfon pecyn hawlio atoch 6 mis cyn iddynt droi 3 a 6 mis cyn iddynt droi’n 5. Gallwch wedyn wneud cais am yr elfen symudedd os credwch eu bod yn gymwys ar ei gyfer.

Os nad ydych wedi derbyn unrhyw becynnau hawlio a’ch bod yn credu y gallai fod gan eich plentyn hawl i’r gydran symudedd, cysylltwch â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd.