Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion
Trosolwg
Mae Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn cael ei ddisodli gan fudd-daliadau eraill. Os ydych eisoes yn cael DLA, efallai y bydd eich cais yn dod i ben.
Os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr, fe gewch lythyr yn dweud wrthych pryd y bydd hyn yn digwydd a sut y gallwch wneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Os ydych chi o dan 16
Gallwch wneud cais am DLA dim ond os ydych chi o dan 16 oed ac rydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr.
Os ydych chi dros 16 oed
Ni allwch wneud cais am DLA. Gallwch wneud cais am:
- Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr a heb gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Gweini os ydych chi o oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn ac nad ydych yn cael DLA
Os ydych chi’n byw yn yr Alban
Mae pob cais presennol am DLA wedi’i symud i Lwfans Byw i’r Anabl i Oedolion yr Alban.
Darganfyddwch am fudd-daliadau anabledd yn yr Alban.