Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion
Os ydych eisoes yn cael DLA
Os cawsoch eich geni ar neu cyn 8 Ebrill 1948, byddwch yn parhau i gael DLA cyhyd â’ch bod yn gymwys ar ei gyfer.
Os cawsoch eich geni ar ôl 8 Ebrill 1948, bydd eich DLA yn dod i ben. Fe gewch lythyr yn dweud wrthych pryd fydd hynny’n digwydd. Byddwch yn parhau i gael DLA tan y dyddiad hwnnw.
Oni bai bod eich amgylchiadau’n newid, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth nes i chi gael y llythyr hwn.
Os yw’ch cais DLA yn dod i ben
Os yw eich DLA yn dod i ben, fe gewch lythyr yn eich gwahodd i wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP). Os gwnewch gais, bydd angen i chi ei wneud o fewn 28 diwrnod.
Bydd DLA yn parhau i gael ei dalu tan o leiaf 28 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad am eich cais PIP.
Os ydych yn gymwys i gael PIP, byddwch yn dechrau cael taliadau PIP cyn gynted ag y bydd eich taliadau DLA yn dod i ben.
Newid yn eich amgylchiadau
Rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd os bydd eich amgylchiadau’n newid, oherwydd gallai hyn effeithio ar faint o DLA y gewch. Er enghraifft:
- mae lefel yr help sydd ei angen arnoch neu mae’ch cyflwr yn newid
- rydych chi’n mynd i’r ysbyty neu gartref gofal am fwy na 2 ddiwrnod
- mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud eich bod yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd)
- rydych yn bwriadu mynd dramor am fwy na 4 wythnos
- rydych yn cael eich carcharu neu’ch cadw yn y ddalfa
Mae’n rhaid i chi hefyd gysylltu â’r ganolfan os:
- rydych yn newid eich enw, cyfeiriad neu fanylion banc
- rydych am roi’r gorau i dderbyn eich budd-dal
- mae manylion eich meddyg yn newid
Efallai y gofynnir i chi wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar ôl i chi roi gwybod am newid i’ch amgylchiadau.
Os byddwch chi’n mynd i gartref gofal am fwy na 2 ddiwrnod, bydd angen i chi hefyd roi gwybod os:
- mae newid i’r ffordd y mae ffioedd eich cartref gofal yn cael eu hariannu (er enghraifft, rydych chi’n dechrau neu’n rhoi’r gorau i gael cyllid gan y GIG neu’r cyngor lleol)
- roeddech chi’n aros yn y cartref gofal dros dro ac rydych chi’n dod yn breswylydd parhaol
- rydych chi’n symud i gartref gofal arall
- rydych chi’n mynd i’r ysbyty
Gallech gael eich erlyn neu’n gorfod talu cost ariannol os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu beidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.
Os ydych chi’n symud o Gymru neu Loegr i’r Alban
Os ydych chi’n cael DLA ac yn symud o Gymru neu Loegr i’r Alban, mae’n rhaid i chi:
- roi gwybod i’r DWP eich bod wedi symud
- cysylltu â Social Security Scotland i ddarganfod pa fudd-dal y gallech fod yn gymwys i’w hawlio
Bydd DWP yn ysgrifennu i ddweud wrthych beth fydd yn digwydd i’ch DLA.
Ffoniwch y DWP cyn gynted ag y byddwch yn symud i’r Alban. Os na wnewch hynny, gallai eich taliadau gael eu heffeithio.
Os ydych chi’n symud o’r Alban i Gymru neu Loegr
Os ydych chi’n cael Lwfans Byw i’r Anabl i Oedolion yr Alban, rhaid i chi:
- roi gwybod i Social Security Scotland eich bod wedi symud
- cysylltu â’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd i ddarganfod pa fudd-dal y gallech fod yn gymwys i’w wneud cais amdano
Bydd Social Security Scotland yn dweud wrthych pryd y bydd eich Lwfans Byw i’r Anabl i Oedolion yr Alban yn dod i ben.
Ffoniwch y Ganolfan Gwasanaeth Anabledd cyn gynted ag y byddwch yn symud i Gymru neu Loegr. Os na wnewch hynny, gallai eich taliadau gael eu heffeithio.
Os delir gormod o DLA i chi
Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:
ddim wedi rhoi gwybod am newid ar unwaith - wedi rhoi gwybodaeth anghywir - wedi eich gordalu mewn camgymeriad
Gwybodaeth am sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais DLA. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’.