Cael budd-daliadau os ydych yn nesáu at ddiwedd oes

Sgipio cynnwys

Hawlio budd-daliadau o dan reolau arbennig

Os ydych chi’n agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch chi’n gallu cael rhai budd-daliadau yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.

Weithiau gelwir hyn yn ‘reolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.

Mae gwahanol reolau os ydych chi’n byw yn yr Alban.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dysgwch sut i hawlio o dan reolau arbennig os:

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i hawlio o dan reolau arbennig

Rydych chi’n gymwys ar gyfer y rheolau arbennig os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych chi salwch sy’n gwaethygu dros amser
  • mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych chi 12 mis neu lai i fyw

Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am ba mor hir y gallech chi fyw, gallwch ofyn a fyddan nhw’n cefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

Mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn cynnwys:

  • meddygon teulu
  • meddygon ysbyty
  • nyrsys cofrestredig (er enghraifft, nyrsys Macmillan neu nyrsys arbenigol)

Gwiriwch pa fudd-daliadau rydych chi’n gymwys ar eu cyfer

Os ydych chi’n gwneud cais o dan y rheolau arbennig, rhaid i chi fod yn gymwys o hyd ar gyfer y budd-dal. Mae gan bob budd-dal feini prawf cymhwysedd gwahanol.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael mwy nag un budd-dal ar yr un pryd.

Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini.

Os ydych chi o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Y budd-daliadau y gallwch wneud cais amdanynt yw:

Os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd oes

Os oes gennych blentyn o dan 16 oed sy’n agosáu at ddiwedd oes, gallwch wneud cais am:

Sut i wneud cais o dan y rheolau arbennig

  1. Gwiriwch eich bod yn gymwys i gael y budd-dal.

  2. Gwnewch gais am y budd-dal, gan ddweud eich bod yn hawlio o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.

  3. Gofynnwch i’ch meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol lenwi ffurflen SR1 i gadarnhau eich bod yn agosáu at ddiwedd oes. Bydd ganddyn nhw’r ffurflen.

  4. Mae eich gweithiwr meddygol proffesiynol yn anfon y ffurflen at adran berthnasol y llywodraeth, neu gallwch ei hanfon eich hun. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dim ond un ffurflen SR1 sydd ei hangen arnoch i’w llenwi, hyd yn oed os ydych chi’n gwneud cais am fwy nag un budd-dal.

Cymorth a chefnogaeth

Os oes angen cefnogaeth arnoch ar ôl eich diagnosis neu gyda gwneud cais am fudd-daliadau, gallwch gael cymorth gan y sefydliadau canlynol: