Budd-daliadau: hysbysu newid yn eich amgylchiadau

Mae angen i chi roi gwybod am newidiadau i’ch amgylchiadau fel eich bod yn dal i gael y swm cywir o fudd-daliadau.

Efallai y bydd eich cais yn cael ei atal neu ei leihau os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid ar unwaith neu os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir.

Mae’r tudalen hon ar gael yn Saesneg (English).

Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid neu gamgymeriad efallai y byddwn yn talu gormod i chi. Os cewch eich gordalu, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhywfaint o’r arian yn ôl. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb o £50 hefyd.

Os nad ydych yn rhoi gwydod i ni am newidiadau yn fwriadol, rydych yn cyflawni twyll budd-dal.

Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Gall newidiadau gynnwys:

  • newid eich enw
  • cael swydd newydd, gweithio oriau gwahanol, neu roi’r gorau i’ch swydd
  • eich incwm yn mynd i fyny neu i lawr
  • dechrau neu gorffen addysg, hyfforddiant neu brentisiaeth
  • symud tŷ
  • pobl yn symud i mewn neu allan o’r lle rydych yn byw (er enghraifft, eich partner, plentyn neu letywr)
  • eich partner neu rywun rydych yn byw gyda nhw yn marw
  • cael babi
  • dechrau neu rhoi’r gorau i ofalu am rywyn
  • priodi neu ysgaru
  • partneriaeth sifil yn dechrau neu ddod i ben
  • cynllunio i fynd dramor am unrhyw gyfnod o amser
  • mynd i’r ysbyty, cartref gofal neu lety cysgodol
  • unrhyw newidiadau i’ch cyflwr meddygol neu anabledd
  • newid eich meddyg
  • newidiadau i’ch pensiwn,cynilion, buddsoddiadau neu eiddo
  • newidiadau i arian arall a gewch (er enghraifft benthyciadau myfyrwyr neu grantiau, tâl salwch neu arian a gewch gan elusen)
  • newidiadau i’r budd-daliadau rydych chi neu unrhyw un arall yn eich tŷ yn ei gael
  • chi neu’ch partner yn cael ôl-dâl (gelwir weithiau’n ‘ôl-ddyledion’) ar gyfer cyflog neu enillion rydych yn ddyledus iddynt

Os ydych yn cael Budd-dal Plant mae angen i chi hefyd rhoi gwybod am newidiadau i amgylchiadau eich plentyn.

Rhoi gwybod am farwolaeth

Defnyddiwch y gwasanaeth ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ os bydd rhywyn yn marw pan fyddant yn derbyn budd-daliadau. Mae’r broses yn wahanol os ydych yng Ngogledd Iwerddon.

Sut i roi gwybod am newidiadau

Mae pwy rydych yn ddweud wrthynt yn dibynnu ar ba fudd-daliadau a gewch. Bydd angen i chi roi gwybod am eich newid i fwy nag un sefydliad os ydych yn cael mwy nag un budd-dal.

Credyd Cynhwysol

Rhoid gwybod am newidiadau gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein os oes gennych un neu gysylltu â llinnell gymorth Credyd Cynhwysol.

Credyd Pensiwn

Ffoniwch y llinell gymorth Gwasanaeth Pensiwn i roi gwybod am newidiadau os ydych yn cael Credyd Pensiwn.

Lwfans Gweini

Ffoniwch y llinell gymorth Lwfans Gweini.

Budd-daliadau anabledd

Ffoniwch y Ganolfan Gwasanaeth Anabledd i roi gwybod am newidiadau os ydych yn cael:

  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).

Lwfans Gofalwr

Rhowch wybod am newid ar-lein neu ffoniwch yr Uned Lwfans Gofalwr.

Budd-dal Tai

Dywedwch wrth eich cyngor lleol am newidiadau os ydych yn cael Budd-dal Tai.

Budd-dal Plant

Rhoi gwybod am newidiadau gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein Budd-dal Plant neu ffoniwch neu ysgrifennwch at y Swyddfa Budd-dal Plant.

Pob budd-dal arall

Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith i roi gwybod am newidiadau. Mae angen i chi gael eich rhif Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn ffonio.