Twyll budd-dal

Rydych yn cyflawni twyll budd-dal trwy hawlio budd-daliadau nad oes hawl gennych yn bwrpasol. Er enghraifft trwy:

  • peidio â rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau
  • darparu gwybodaeth ffug

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Beth sy’n digwydd os ydych o dan amheuaeth o dwyll budd-dal

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, yr Asiantaeth Personél Milwrol a Chyn-filwyr neu’ch awdurdod lleol yn cysylltu â chi os ydych o dan amheuaeth o dwyll.

Efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei atal tra byddwch yn cael eich ymchwilio. Byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych am hyn os bydd yn digwydd.

Efallai y byddwch yn cael ymweliad gan Swyddogion Ymchwilio i Dwyll (FIO) neu bydd gofyn i chi fynychu cyfweliad i siarad am eich cais – gelwir hwn yn ‘gyfweliad dan rybudd’.

Bydd Swyddogion Ymchwilio i Dwyll yn casglu ffeithiau am eich achos ac yn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach.

Os gofynnir i chi fynychu cyfweliad

Mae ‘cyfweliad dan rybudd’ yn gyfweliad ffurfiol sy’n cael ei recordio’n aml. Gall ddod yn rhan o ymchwiliad troseddol yn eich erbyn.

Cael cyngor ar eich achos er enghraifft, gan cynghorydd cyfreithiol neu gyfreithiwr.

Gallwch hefyd gael help a gwybodaeth am ‘gyfweliadau dan rybudd’ gan:

Beth sy’n digwydd ar ôl ymchwiliad am dwyll budd-daliadau

Os ydych wedi cyflawni neu wedi ceisio twyll, efallai y bydd un neu ragor o’r canlynol hefyd yn digwydd:

  • dywedir wrthych i dalu’r arian a ordalwyd yn ôl
  • gallech gael eich cymryd i’r llys neu gofynnir i chi dalu cosb (rhwng £350 a £5,000)
  • efallai y bydd eich budd-daliadau yn cael eu lleihau neu eu hatal

Colli budd-daliadau os ydych yn euog o dwyll

Gall eich budd-daliadau gael eu lleihau neu eu hatal am hyd at 3 blynedd os ydych yn euog o dwyll budd-daliadau. Mae faint o amser maent yn cael eu hatal am yn dibynnu ar faint o weithiau rydych wedi cyflawni twyll.

Dim ond budd-daliadau penodol y gellir eu lleihau neu eu hatal. Gelwir y rhain yn ‘budd-daliadau sancsiynol’. Ond os ydych yn cyflawni twyll ar fudd-dal na ellir eu lleihau neu eu hatal, gall eich budd-daliadau eraill gael eu lleihau yn lle hynny.

Budd-daliadau sancsiynol

Gall y budd-daliadau canlynol gael eu lleihau neu eu hatal os byddwch yn cyflawni twyll budd-daliadau:

  • Atodiad Anafiadau Diwydiannol i’r Anghyflogadwy
  • Atodiad Pensiwn Rhyfel i’r Anghyflogadwy
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Budd-dal Marwolaeth Diwydiannol
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Ceisio Gwaith
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Lwfans Enillion Gostyngol Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Gofalwr
  • Lwfans Mam Weddw/Rhiant Gweddw
  • Lwfans Pensiwn Rhyfel i Safon Isaf o Alwedigaeth
  • Lwfans Ymddeol Anafiadau Diwydiannol
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel
  • Pensiwn Gwraig Weddw/Lwfans Profedigaeth
  • Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw

Budd-daliadau na ellir eu lleihau neu eu hatal

Ni all y budd-daliadau canlynol gael eu lleihau neu eu hatal os byddwch yn cyflawni twyll budd-daliadau:

  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
  • Bonws Nadolig
  • Budd-dal Plant
  • Budd-dal Ymddeol Graddedig
  • Credyd Treth Plant
  • Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol Anafiadau Diwydiannol (lle mae Pensiwn Anabledd yn daladwy)
  • Lwfans Anabledd Difrifol Eithriadol Pensiwn Rhyfel
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Gwarcheidwad
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson Anafiadau Diwydiannol (lle mae Pensiwn Anabledd yn daladwy)
  • Lwfans Gweini Cyson Pensiwn Rhyfel
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Cymorth Profedigaeth
  • Taliadau’r Gronfa Gymdeithasol
  • Taliad Profedigaeth

Eithriadau

Os byddwch yn cyflawni twyll budd-dal a’ch bod yn cael unrhyw un o’r budd-daliadau canlynol, ni all eich taliadau gael eu hatal neu eu lleihau:

  • Lwfans Mamolaeth
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Salwch Stadudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol