Credyd Pensiwn
Beth fyddwch yn ei gael
Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at:
- eich incwm wythnosol i £227.10 os ydych yn sengl
- eich incwm wythnosol ar y cyd i £346.60 os oes gennych bartner
Efallai y cewch symiau ychwanegol os oes gennych gyfrifoldebau a chostau eraill.
Mae’r ychwanegiad a symiau ychwanegol yn cael eu hadnabod fel ‘Credyd Gwarantedig’.
Os oes gennych anabledd difrifol
Efallai y gallwch gael £82.90 yr wythnos yn ychwanegol os cewch unrhyw un o’r canlynol:
- Lwfans Gweini
- cyfradd ganol neu uwch elfen ofal y Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- cydran bywyd bob dydd y Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- elfen bywyd bob dydd Taliad Anabledd i Oedolion
- Taliad Anabledd Oedran Pensiwn
- cyfradd ganol neu uchaf elfen ofal Lwfans Byw i’r Anabl i Oedolion yr Alban
Os ydych yn gofalu am oedolyn arall
Gallwch gael £46.40 yr wythnos yn ychwanegol os:
- rydych yn cael Lwfans Gofalwr
- rydych yn cael Taliad Cymorth Gofalwr
- rydych wedi cael Lwfans Gofalwr ond nid ydych yn cael eich talu oherwydd eich bod eisoes yn cael budd-dal arall sy’n talu swm uwch
Os ydych chi a’ch partner wedi hawlio neu’n cael Lwfans Gofalwr, gall y ddau ohonoch gael y swm ychwanegol yma
Os ydych yn gyfrifol am blant neu bobl ifanc
Gallech gael swm ychwanegol ar gyfer pob plentyn neu berson ifanc rydych chi’n gyfrifol amdano sy’n byw gyda chi.
Byddwch yn cael £67.42 yr wythnos am bob plentyn neu berson ifanc. Mae hyn yn cael ei gynyddu i £78.10 yr wythnos ar gyfer y plentyn cyntaf os cawsant eu geni cyn 6 Ebrill 2017.
Byddwch yn cael y swm ychwanegol tan y 31 Awst ar ôl eu:
- pen-blwydd yn 16 oed
- pen-blwydd yn 19 oed, os ydynt mewn addysg neu hyfforddiant cymwys – er enghraifft, maent yn astudio ar gyfer TGAU, Safon Uwch, BTEC, Scottish Highers a SVQ neu NVQs hyd at lefel 3
Os ydynt mewn addysg, rhaid iddo fod am fwy na 12 awr yr wythnos ar gyfartaledd.
Os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn anabl
Os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn anabl, gallech hefyd gael swm ychwanegol.
Gallech gael £36.54 ychwanegol yr wythnos os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn cael:
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant - cyfradd isaf neu ganol yr elfen ofal neu unrhyw gyfradd o’r elfen symudedd
- Taliad Anabledd Plant - cyfradd isaf neu ganol yr elfen ofal neu unrhyw gyfradd o’r elfen symudedd
- Lwfans Byw i’r Anabl i Oedolion yr Alban - cyfradd isaf neu ganol yr elfen ofal neu unrhyw gyfradd o’r elfen symudedd
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) - cyfradd safonol yr elfen bywyd bob dydd neu unrhyw gyfradd yr elfen symudedd
- Taliad Anabledd i Oedolion - cyfradd safonol yr elfen bywyd bob dydd neu unrhyw gyfradd o’r elfen symudedd
Gallech gael £114.12 ychwanegol yr wythnos os yw’r plentyn neu’r person ifanc yn cael:
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant - cyfradd uchaf yr elfen ofal
- Taliad Anabledd Plant - cyfradd uwch yr elfen ofal
- Lwfans Byw i’r Anabl i Oedolion yr Alban - cyfradd uwch yr elfen ofal
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) - cyfradd uwch yr elfen bywyd bob dydd
- Taliad Anabledd i Oedolion - cyfradd uwch o’r elfen bywyd bob dydd
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os ydyn nhw’n ddall neu â nam difrifol ar eu golwg.
Os oes gennych gostau tai
Gallech gael swm ychwanegol i dalu am eich costau tai, fel:
- rhent daear os yw’ch eiddo yn brydlesol
- rhai taliadau am wasanaeth
- taliadau am bebyll a rhenti safle
Mae’r swm y gallech ei gael yn dibynnu ar eich costau tai.
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, fe allwch hefyd fod yn gymwys ar gyfer:
- Gostyngiad y Dreth Gyngor
- Budd-dal Tai os ydych yn rhentu’r eiddo rydych yn byw ynddo
- Cefnogaeth ar gyfer Llog Morgais os ydych yn berchen ar yr eiddo rydych yn byw ynddo
Os oes gennych gynilion neu ail bensiwn
Gallech gael y rhan ‘Credyd Cynilo’ o Gredyd Pensiwn os yw dau o’r canlynol yn berthnasol:
- gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
- gwnaethoch gynilo rhywfaint o arian ar gyfer ymddeol, er enghraifft pensiwn personol neu bensiwn y gweithle
Byddwch yn cael hyd at £17.30 o Gredyd Cynilo yr wythnos os ydych yn sengl. Os oes gennych bartner, byddwch yn cael hyd at £19.36 yr wythnos.
Efallai y byddwch yn dal i gael rhywfaint o Gredyd Cynilo hyd yn oed os na chewch y rhan Credyd Gwarantedig o’r Credyd Pensiwn.
Cymorth arall os ydych yn cael Credyd Pensiwn
Os ydych yn cael Credyd Pensiwn, byddwch yn cael taliadau tywydd oer yn awtomatig.
Byddwch hefyd yn gymwys i:
- wneud cais am drwydded deledu am ddim os ydych yn 75 oed neu’n hŷn
- cael help gyda chostau GIG os ydych yn cael rhan Credyd Gwarantedig Credyd Pensiwn
Gall costau GIG gynnwys pethau fel presgripsiynau, triniaeth ddeintyddol, sbectol a chostau cludiant ar gyfer apwyntiadau ysbyty.
Darganfyddwch faint y gallwch ei gael
Defnyddiwch y gyfrifiannell Credyd Pensiwn i weithio allan faint y gallwch ei gael.
Efallai y gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell Credyd Pensiwn i wirio eich cymhwysedd a chael amcangyfrifiad o faint gallwch chi ei gael.
Llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn
Ffôn: 0800 99 1234
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 99 1234
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch am gostau galwadau
Sut rydych yn cael eich talu
Fel arfer, telir yr holl fudd-daliadau, pensiynau a lwfansau i gyfrif, er enghraifft cyfrif banc.