Cyfrifiannell Credyd Pensiwn

Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn a faint y gallech ei gael.

Bydd angen manylion:

  • enillion, budd-daliadau a phensiynau
  • cynilion a buddsoddiadau

Bydd angen yr un manylion arnoch ar gyfer eich partner os oes gennych chi un.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechreuwch nawr

Pwy na all ddefnyddio’r cyfrifiannell

Ni allwch ddefnyddio’r gyfrifiannell os ydych chi neu’ch partner:

  • yn gohirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth
  • yn berchen ar fwy nag un eiddo
  • yn hunangyflogedig
  • bod â chostau tai (fel taliadau gwasanaeth neu rent Tenant y Goron) nad ydynt yn ad-daliadau morgais nac yn rent a gwmpesir gan Fudd-dal Tai
  • yn cael Budd-dal Tai am bobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac mae’r person arall o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os na allwch ddefnyddio’r gyfrifianell, gallwch ffonio llinell hawlio Credyd Pensiwn. Mae yna rif gwahanol os ydych wedi gohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth.

0800 99 1234
NGT text relay (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 99 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Os na allwch ddefnyddio’r gyfrifiannell, gallwch ddarganfod mwy am Gredyd Pensiwn.

Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth

Ffoniwch linell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn a gofynnwch am Gredyd Pensiwn.

Llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn
0800 731 0453
NGT text relay (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0453
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau