Credyd Pensiwn
Sut i wneud cais
Gallwch wneud eich cais hyd at 4 mis cyn i chi gyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch wneud cais unrhyw amser ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ond gall eich cais ddim ond cael ei ôl-ddyddio am 3 mis. Mae hyn yn golygu y gallwch gael hyd at 3 mis o Gredyd Pensiwn yn eich taliad cyntaf pe byddech yn gymwys yn ystod yr amser hynny.
Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch chi a’ch partner os oes gennych un:
- Rhif Yswiriant Gwladol
- gwybodaeth am unrhyw incwm, cynilion a buddsoddiadau sydd gennych
- gwybodaeth am eich incwm, cynilion a buddsoddiadau ar y dyddiad yr ydych am ôl-ddyddio’ch cais iddo (fel arfer 3 mis yn ôl neu’r dyddiad y gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth)
Bydd hefyd angen manylion eich cyfrif banc arnoch. Yn dibynnu ar sut rydych yn gwneud cais, efallai y gofynnir i chi hefyd am enw eich banc neu gymdeithas adeiladu, cod didoli a rhif cyfrif.
Gwneud cais ar-lein
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Gwneud cais dros y ffôn
Gall ffrind neu aelod o’r teulu ffonio i chi os na allwch ddefnyddio’r ffôn.
Llinell gais Credyd Pensiwn
Ffôn: 0800 99 1234
Ffôn testun: 0800 169 0133
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 99 1234
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am i 3:30pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Gwneud cais drwy’r post
I wneud cais trwy’r post, argraffwch a chwblhewch ffurflen gais Credyd Pensiwn neu ffoniwch y llinell gais i ofyn am ffurflen.
Anfonwch y ffurflen gais at y Gwasanaeth Pensiwn, neu gofynnwch i rywun ei wneud ar eich rhan.
Freepost DWP Pensions Service 3
Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth ar yr amlen heblaw am y cyfeiriad freepost. Nid oes angen cod post neu stamp arnoch.
Cysylltwch â sefydliad gwirfoddol fel Cyngor ar Bopeth neu Age UK os ydych angen help gyda’r ffurflen.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am eich cais Credyd Pensiwn. Gelwir hwn yn ailystyriaeth orfodol.