Cymhwyster

Rhaid i chi fyw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban a bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth i fod yn gymwys i gael Credyd Pensiwn.

Os ydych o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, fel rheol mae angen statws sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog i chi a’ch teulu o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE i gael Credyd Pensiwn. Y dyddiad cau i wneud cais i’r cynllun oedd 30 Mehefin 2021 i’r mwyafrif o bobl, ond efallai y byddwch chi’n dal i allu gwneud cais. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.

Os oes gennych bartner

Rhaid i chi gynnwys eich partner ar eich cais.

Byddwch yn gymwys os naill ai:

  • rydych chi a’ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • mae un ohonoch yn cael Budd-dal Tai ar gyfer pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Mae partner yn naill ai:

  • eich gŵr, gwraig neu bartner sifil - os ydych yn byw gyda nhw
  • rhywun rydych yn byw gyda nhw fel cwpl, heb fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Eich incwm

Pan rydych yn gwneud cais am Gredyd Pensiwn mae eich incwm yn cael ei weithio allan. Os oes gennych bartner mae eich incwm yn cael ei weithio allan gyda’i gilydd.

Mae Credyd Pensiwn yn cynyddu:

  • eich incwm wythnosol i £218.15 os ydych yn sengl
  • eich incwm wythnosol ar y cyd i £332.95 os oes gennych bartner

Os yw’ch incwm yn uwch, efallai y byddwch dal yn gymwys i gael Credyd Pensiwn os oes gennych chi anabledd, rydych yn gofalu am rywun, mae gennych gynilion neu os oes gennych gostau tai.

Beth sy’n cyfrif fel incwm

Mae eich incwm yn cynnwys:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • pensiynau eraill
  • enillion o gyflogaeth a hunangyflogaeth
  • y rhan fwyaf o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol, er enghraifft Lwfans Gofalwr

Beth sydd ddim yn cyfrif fel incwm

Nid yw pob budd-dal yn cael ei gyfrif fel incwm. Er enghraifft, nid yw’r canlynol yn cyfrif:

  • Taliad Anabledd Oedolion
  • Lwfans Gweini
  • Bonws y Nadolig
  • Budd-dal Plant
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • taliadau cronfa gymdeithasol fel Lwfans Tanwydd Gaeaf
  • Budd-dal Tai
  • Gostyngiad Treth Cyngor

Os ydych wedi gohirio eich pensiwn

Os oes gennych hawl i gael pensiwn personol neu bensiwn y gweithle ac nad ydych wedi ei hawlio eto, mae’r swm y byddwch yn disgwyl ei gael yn dal i gyfrif fel incwm.

Os ydych chi wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth, mae swm y Pensiwn y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael yn cael ei gyfrif fel incwm.

Ni allwch gronni symiau ychwanegol gan ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth os ydych chi neu eich partner yn cael Credyd Pensiwn.

Eich cynilion a’ch buddsoddiadau

Os oes gennych £10,000 neu lai mewn cynilion a buddsoddiadau ni fydd hyn yn effeithio ar eich Credyd Pensiwn.

Os oes gennych fwy na £10,000, mae pob £500 dros £10,000 yn cyfrif fel incwm o £1 yr wythnos. Er enghraifft, os oes gennych £11,000 mewn cynilion, mae hyn yn cyfrif fel incwm o £2 yr wythnos.

Cysylltwch â llinell gymorth y Gwasanaeth Pensiwn os bydd eich amgylchiadau’n newid.

Os ydych chi i ffwrdd o Brydain Fawr

Gallwch barhau i gael Credyd Pensiwn os ydych chi i ffwrdd o Brydain Fawr am 4 wythnos neu lai - er enghraifft, ar wyliau.

Rhaid i chi:

Gallwch gael Credyd Pensiwn am hyd at 4 wythnos arall os:

  • rydych i ffwrdd o Brydain Fawr oherwydd marwolaeth perthynas agos
  • mae perthynas agos yn marw tra byddwch i ffwrdd ac nid yw’n rhesymol i chi ddychwelyd i’r DU

Ni allwch wneud cais am Gredyd Pensiwn os ydych eisoes y tu allan i Brydain Fawr.

Ni allwch gael Credyd Pensiwn os ydych yn symud i ffwrdd o Brydain Fawr yn barhaol.

Gadael Prydain Fawr am driniaeth feddygol

Gallwch barhau i gael Credyd Pensiwn am hyd at 26 wythnos os:

  • rydych wedi gadael Prydain Fawr am driniaeth feddygol
  • rydych wedi gadael Prydain Fawr am gyfnod o adferiad sydd wedi ei gymeradwyo gan weithiwr meddygol proffesiynol (a elwir hefyd yn ‘adferiad cymeradwy’)
  • mae eich partner neu’ch plentyn yn gadael Prydain Fawr am driniaeth feddygol neu ‘adferiad cymeradwy’ ac rydych yn mynd gyda hwy