Gwneud cais am PIP os gallai fod gennych 12 mis neu'n llai i fyw

Gallwch gael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn gynt os:

  • yw eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw
  • ydych yn 16 oed neu drosodd

Rhaid hefyd i chi fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth os nad ydych wedi hawlio PIP o’r blaen.

Os ydych yn byw yn yr Alban, mae angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedolion (ADP) yn lle. Gwiriwch os ydych yn gymwys am ADP.

Beth fyddwch yn ei gael

Byddwch yn cael yr elfen bywyd bob dydd uwch o £101.75 yr wythnos.

Mae p’un a ydych yn cael y rhan symudedd a faint ydych yn ei gael yn dibynnu ar eich anghenion. Y gyfradd wythnosol is yw £26.90 a’r gyfradd wythnosol uwch yw £71.00.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais drosoch eich hun neu gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan.

  1. Ffoniwch linell ceisiadau PIP i ddechrau eich cais.

  2. Gofynnwch i weithiwr gofal iechyd proffesiynol am ffurflen SR1. Byddant naill ai’n ei llenwi i mewn a rhoi’r ffurflen i chi neu ei hanfon yn uniongyrchol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

  3. Os ydych hefyd yn hawlio Credyd Cynhwysol, mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein a defnyddiwch eich dyddlyfr i ddweud eich bod wedi anfon SR1 i DWP.

Ni fydd angen i chi fynd i ymgynghoriad wyneb yn wyneb.

Os ydych angen rhywun i’ch helpu, gallwch:

  • ofyn iddynt gael eu hychwanegu i’ch galwad – ni allwch wneud hyn os ydych yn defnyddio ffôn testun
  • ofyn i rywun ffonio ar eich rhan - byddwch angen bod gyda hwy pan fyddant yn ffonio

Ceisiadau PIP

Ffôn: 0800 917 2222

Ffôn testun: 0800 917 7777

Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 917 2222

Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen

Ffonio o dramor: +44 191 218 7766

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Darganfyddwch am gostau galwadau