Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
Cymhwyster
Gallwch gael Taliad Annbyniaeth Personol (PIP) os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol i chi:
- os ydych yn 16 oed neu drosodd
- mae gennych gyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu feddyliol hir dymor
- mae gennych anhawster yn gwneud rhai tasgau bob dydd neu symud o gwmpas
- rydych yn disgwyl i’r anawsterau barhau am o leiaf 12 mis o’r adeg pan wnaethon nhw ddechrau
Fel arfer mae angen i chi hefyd fod o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth i wneud cais PIP newydd.
Os ydych chi’n byw yn yr Alban, mae angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedolion (ADP) yn lle hynny.
Mae rheolau cymhwysedd gwahanol os ydych yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd). Efallai y byddwch yn gallu cael PIP yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni allwch fel arfer wneud cais newydd am PIP. Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini yn lle hynny.
Gallwch wneud cais newydd am PIP os cawsoch PIP neu Daliad Anabledd Oedolion (ADP) yn ystod y 12 mis diwethaf.
Os ydych yn cael budd-daliadau neu incwm arall
Gallwch gael PIP yr un pryd a holl fudd-daliadau eraill, heblaw am Daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog.
Os ydych yn cael Lwfans Gweini Cyson byddwch yn cael llai o’r rhan bob dydd o PIP.
Os ydych yn cael yr Atodiad Symudedd Pensiynwyr Rhyfel ni fyddwch yn cael y rhan symudedd o PIP.
Os ydych yn cael Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel ni fyddwch yn cael y rhan symudedd o PIP.
Gallwch gael PIP os ydych yn gweithio neu fod gennych gynilion.
Os ydych wedi dychwelyd o fyw dramor yn ddiweddar
I wneud cais am PIP, fel arfer mae angen i chi:
- fod wedi byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban am o leiaf 2 o’r 3 blynedd diwethaf
- bod yn byw yng Nghymru neu Loegr pan fyddwch yn gwneud cais
Os ydych wedi dychwelyd yn ddiweddar o fyw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, efallai y gallwch gael PIP yn gynt.
Os ydych yn byw dramor
Efallai y gallwch gael Taliad Annibyniaeth Personol o hyd os ydych yn:
- byw mewn gwlad UE neu AEE arall neu’r Swistir – gallwch ond cael help gyda anghenion bywyd bob dydd
- aelod neu aelod teulu o’r Lluoedd Arfog
Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig
Mae’n rhaid i chi:
- fel arfer fod yn byw neu’n dangos eich bod yn bwriadu setlo yn y DU, Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
- beidio bod yn destun i reolau mewnfudo (oni bai eich bod yn fewnfudwr wedi ei noddi)
Os ydych o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, fel rheol mae angen statws sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog i chi a’ch teulu o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE i gael PIP. Y dyddiad cau i wneud cais i’r cynllun oedd 30 Mehefin 2021 i’r rhan fwyaf o bobl, ond efallai y byddwch yn dal i allu gwneud cais. Gwiriwch a allwch barhau i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.
Efallai y gallwch gael Taliad Annibyniaeth Personol o hyd os ydych yn ffoadur neu gyda statws amddiffyn dyngarol.