Os yw’ch cais Taliad Annibyniaeth Personol yn cael ei adolygu

Bydd y llythyr a gawsoch pan gymeradwywyd eich Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) yn dweud wrthych pryd fydd eich cais yn dod i ben ac os bydd yn cael ei adolygu.

Sut mae adolygiad PIP yn gweithio

Byddwch yn parhau i gael PIP tra bydd eich cais yn cael ei adolygu.

  1. Cewch lythyr yn gofyn i chi lenwi ffurflen o’r enw ‘Adolygu’r dyfarniad - sut mae’ch anabledd yn effeithio arnoch’.

  2. Cwblhewch y ffurflen gan ddefnyddio’r nodiadau sy’n dod gyda’r ffurflen.

  3. Anfonwch y ffurflen ac unrhyw wybodaeth ategol nad ydych wedi eu rhannu ag Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gynt - mae’r ffurflen yn esbonio beth i’w chynnwys a ble i’w hanfon. Bydd rhaid i chi ei dychwelyd o fewn mis. Cysylltwch â llinell ymholiadau PIP os oes angen mwy o amser arnoch.

  4. Bydd DWP yn adolygu’ch ffurflen. Os ydynt angen rhagor o wybodaeth, efallai fydd gweithiwr iechyd proffesiynol annibynnol yn eich ffonio i ofyn ambell gwestiwn i chi neu anfon llythyr atoch i’ch gwahodd i asesiad. Gall asesiadau fod wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.

  5. Cewch lythyr sy’n dweud wrthych beth fydd yn digwydd gyda’ch PIP. Os yw’ch anghenion wedi newid, efallai fydd eich PIP yn cael ei gynyddu, ei ostwng, neu ei stopio.

Oherwydd coronafeirws (COVID-19), byddwch ond yn cael eich gwahodd i fynychu asesiad wyneb yn wyneb os oes angen mwy o wybodaeth ac ni allwch wneud asesiad dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Bydd eich llythyr gwahoddiad yn esbonio sut i fynychu eich apwyntiad yn ddiogel.

Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad ynglŷn â’ch cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.