Sut i wneud cais

Cyn i chi wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP), gwiriwch eich bod yn gymwys.

Os ydych yn byw yn:

Dechrau eich cais dros y ffôn

Bydd angen i chi:

  1. Ffonio llinell ffôn ‘Ceisiadau newydd am PIP’ ac ateb rhai cwestiynau sylfaenol amdanoch chi a’ch anabledd neu gyflwr. Yna anfonir ffurflen atoch sy’n gofyn sut mae eich anabledd neu gyflwr yn effeithio arnoch chi.

  2. Cwblhau a dychwelyd y ffurflen. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

  3. Efallai y byddwch angen cael asesiad, os oes angen mwy o wybodaeth.

Os ydych angen rywun i’ch helpu

Gallwch:

  • ofyn iddynt gael eu hychwanegu i’ch galwad – ni allwch wneud hyn os ydych yn defnyddio ffôn testun
  • gofyn i rywun arall ffonio ar eich rhan – byddwch angen bod gyda hwy pan fyddant yn ffonio
  • gofyn am siaradwr Cymraeg - byddwch yn cael yr opsiwn hwn pan fydd yr alwad yn dechrau

Efallai y byddwch yn gallu cael ymweliad cartref gan swyddog yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i’ch helpu gyda’ch cais. Gofynnwch i’r ymgynghorydd pan fyddwch chi’n ffonio llinell ffôn ceisiadau newydd PIP.

Cyn i chi ddechrau

Byddwch angen:

  • eich manylion cyswllt, er enghraifft rhif ffôn
  • eich dyddiad geni
  • eich rhif Yswiriant Gwladol – os oes gennych un (mae’r rhif ar lythyrau am dreth, pensiynau a budd-daliadau)
  • rhif eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu a’r cod didoli
  • enw, rhif ffôn a chyfeiriad eich meddyg neu’ch gweithiwr iechyd
  • dyddiadau a chyfeiriadau am unrhyw gyfnod rydych wedi treulio mewn cartref gofal neu ysbyty
  • dyddiadau am unrhyw gyfnod rydych wedi treulio dramor am fwy na 4 wythnos ar y tro, a’r gwledydd y gwnaethoch ymweld â hwy
  • gwybodaeth am unrhyw arian neu gymorth rydych chi neu aelod agos o’r teulu (gŵr, gwraig, partner sifil neu riant dibynnol) yn ei gael o wlad yr AEE neu’r Swistir

Llinell ffôn ceisiadau newydd am PIP

Ffôn: 0800 917 2222

Ffôn testun: 0800 917 7777

Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 917 2222

Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen

Ffonio o dramor: +44 191 218 7766

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Dechrau eich cais drwy’r post

Ysgrifennwch lythyr yn dweud eich bod eisiau dechrau cais am PIP. Dylech gynnwys eich enw a’ch cyfeiriad.

Anfonwch y llythyr at:

Freepost DWP PIP 1

Nid oes angen i chi roi cod post na stamp ar yr amlen.

Anfonir ffurflen atoch i’w llenwi gan ofyn rhai cwestiynau sylfaenol amdanoch chi a’ch anabledd neu gyflwr. Llenwch y ffurflen a’i dychwelyd.

Yna byddwch yn cael ail ffurflen sy’n gofyn am wybodaeth am sut mae eich anabledd neu gyflwr yn effeithio arnoch chi.

Cwblhau a dychwelyd y ffurflen am eich cyflwr

Os byddwch yn gwneud cais dros y ffôn neu drwy’r post, byddwch fel arfer yn cael ffurflen o’r enw ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ o fewn 2 wythnos.

Cwblhewch y ffurflen drwy ddefnyddio’r nodiadau ynghlwm a’i dychwelyd i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dylech gynnwys dogfennau ategol os oes gennych rhai – er enghraifft, rhestrau presgripsiwn, cynlluniau gofal, neu wybodaeth gan eich meddyg neu eraill sy’n ymwneud â’ch gofal.

Mae gennych 1 mis i’w dychwelyd. Cysylltwch â llinell ymholiadau PIP os oes angen mwy o amser arnoch neu os oes gennych gwestiynau.

Gallwch ddarllen cymorth Cyngor ar Bopeth Help i lenwi’r ffurflen.

Edrych i weld os gallwch wneud cais ar-lein

Gallwch ond gwneud cais am PIP ar-lein mewn rhai ardaloedd. Byddwch angen gwirio eich cod post pan fyddwch yn dechrau eich cais.

I ddechrau eich cais ar-lein byddwch angen eich:

  • rhif Yswiriant Gwladol
  • cyfeiriad e-bost
  • ffôn symudol

Gwiriwch a allwch wneud cais am PIP ar-lein

Os ydych eisoes wedi cofrestru, gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif PIP.