Sut i wneud cais

I wneud cais am DLA am blentyn mae angen i chi fod yn rhiant iddynt neu’n gofalu amdanynt fel petaech yn rhiant iddynt. Mae hyn yn cynnwys llys-rieni, gwarcheidwaid, neiniau a theidiau, rhieni maeth neu frodyr neu chwiorydd hŷn.

Mae ffordd wahanol o wneud cais os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd ei oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd).

Os yw eich plentyn yn byw yng Nghymru neu Loegr ar hyn o bryd gallwch wneud cais naill ai drwy:

  • argraffu a chwblhau’r ffurflen DLA
  • ffonio’r llinell gymorth Lwfans Byw i;r Anabl a gofyn iddynt am ffurflen wedi’i hargraffu

Llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl Ffôn: 0800 121 4600
Ffôn testun: 0800 121 4523
Relay UK(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 121 4600
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os yw’ch plentyn yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gwnewch gais am DLA am blant yng Ngogledd Iwerddon. Os yw’ch plentyn yn byw yn yr Alban, gwnewch gais am Daliad Anabledd Plant.

Os yw’ch plentyn yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr

Bydd eich Taliad Anabledd Plant yn dod i ben 13 wythnos ar ôl i’ch plentyn symud

Gwnewch gais am DLA i blant cyn gynted â phosibl ar ôl symud neu gall eich taliadau cael eu heffeithio.

Pryd y byddwch yn cael eich talu

Gellir talu DLA o ddechrau eich cais. Ni ellir ei ôl-ddyddio. Bydd eich cais yn cychwyn ar y dyddiad y derbynnir y ffurflen neu’r dyddiad y byddwch yn ffonio’r llinell ymholi (os dychwelwch y pecyn hawlio cyn pen 6 wythnos).

Ar ôl i chi wneud cais, fe gewch lythyr o fewn 3 wythnos sy’n esbonio pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gael penderfyniad. Ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud, fe gewch lythyr arall a fydd yn dweud wrthych pryd y byddwch yn cael eich taliad cyntaf.

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad

Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.