Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant
Os yw'ch plentyn yn agosáu at ddiwedd oes
Os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd ei oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i blant yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Gelwir hyn weithiau’n ‘rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.
Efallai y byddwch chi’n gallu cael budd-daliadau eraill os yw’ch plentyn yn agosáu at ddiwedd oes.
Os yw’ch plentyn yn byw yn yr Alban, gwnewch gais am Daliad Anabledd Plant yn lle hynny. Os yw’ch plentyn yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gwnewch gais am Disability Living Allowance for children in Northern Ireland.
Cymhwyster
Mae eich plentyn fel arfer yn gymwys os:
-
maen nhw dan 16 oed - rhaid i unrhyw un dros 16 oed wneud cais am Daliad Annibyniaeth Personol(PIP)
-
mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod ganddynt 12 mis neu lai i fyw
Gall fod yn anodd rhagweld pa mor hir y gallai rhywun fyw. Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am hyn, gallwch ofyn iddynt gefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.
Os ydych chi eisoes yn cael DLA i blant
Cysylltwch â’r llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl ar unwaith os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gan eich plentyn 12 mis neu lai i fyw.
Beth y byddwch chi’n ei gael
Bydd eich plentyn yn cael yr elfen gofal uchaf o £108.55 yr wythnos.
Efallai y byddant hefyd yn gymwys ar gyfer yr elfen symudedd.
Sut i wneud cais
Gofynnwch i weithiwr proffesiynol meddygol am ffurflen SR1. Byddant naill ai’n ei llenwi ac yn rhoi’r ffurflen i chi neu’n ei hanfon yn uniongyrchol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Cysylltwch â llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl i ddechrau eich cais.
Llinell gymorth Lwfans Byw i’r Anabl
Ffôn: 0800 121 4600
Ffôn testun: 0800 121 4523
Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 121 4600\
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gwasanaeth relay fideo os ydych chi ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm