Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) i oedolion

Neidio i gynnwys y canllaw

Cyfraddau DLA

Ni allwch wneud cais am DLA bellach os ydych yn 16 neu fwy. Gwiriwch pa fudd-daliadau eraill y gallech wneud cais amdano.

Mae DLA wedi ei gwneud o 2 elfen (rhan), yr ‘elfen gofal’ a’r ‘elfen symudedd’. I gael DLA, rhaid i chi fod yn gymwys i gael o leiaf un o’r elfennau.

Mae faint o DLA a gewch yn dibynnu ar sut mae’ch anabledd neu’ch cyflwr iechyd yn effeithio arnoch chi.

Os oes angen cymorth arnoch i ofalu amdanoch chi eich hun

Efallai y byddwch yn cael elfen gofal DLA os ydych:

  • angen help gyda phethau fel golchi, gwisgo, bwyta, defnyddio’r toiled neu gyfathrebu’ch anghenion
  • angen goruchwyliaeth er mwyn osgoi rhoi eich hunain neu eraill mewn perygl
  • angen rhywun gyda chi tra byddwch yn cael dialysis
  • methu â pharatoi prif bryd wedi’i goginio

Gallwch gael y rhan hon hyd yn oed os nad oes rhywun yn rhoi’r gofal sydd ei angen arnoch neu rydych yn byw ar ben eich hunain.

Elfen gofal Cyfradd wythnosol Lefel yr help sydd ei angen arnoch
Is £26.90 Help am rywfaint o’r diwrnod neu gyda pharatoi prydau wedi’u coginio
Canolig £68.10 Angen help yn aml neu oruchwyliaeth cyson yn ystod y dydd, goruchwyliaeth yn y nos neu rywun i’ch helpu tra ar ddialysis
Cyfradd uwch £101.75 Cymorth neu oruchwyliaeth trwy gydol y dydd a’r nos, os ydy gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud gall bod gennych 12 mis neu’n llai i fyw.

Os ydych yn cael DLA a Lwfans Gweini Cyson (Constant Attendance Allowance) bydd elfen gofal eich DLA yn cael ei lleihau gan swm y Lwfans Gweini Cyson a gewch.

Os oes gennych anawsterau cerdded

Efallai cewch yr elfen symudedd o DLA os, wrth ddefnyddio eich offer cymorth arferol, rydych:

  • methu â cherdded
  • ond yn gallu cerdded pellter byr heb gael anesmwythder difrifol
  • yn gallu mynd yn sâl iawn os ydych yn ceisio cerdded

Efallai y byddwch hefyd yn ei gael os ydych:

  • heb draed neu goesau
  • wedi’ch asesu fel 100% yn ddall ac o leiaf 80% yn fyddar ac angen rhywun gyda chi tra byddwch y tu allan
  • â nam meddyliol difrifol gyda phroblemau ymddygiad difrifol ac yn cael y gyfradd uwch o ofal ar gyfer DLA
  • angen goruchwyliaeth rhan fwyaf o’r amser wrth gerdded tu allan
  • wedi’ch ardystio â nam difrifol ar y golwg a rhwng 3 a 64 oed ar 11 Ebrill 2011
Elfen symudedd Cyfradd wythnosol Lefel yr help sydd ei angen arnoch
Is £26.90 Arweiniad neu oruchwyliaeth tu allan
Uwch £71 Mae gennych unrhyw anhawster cerdded arall sy’n fwy difrifol

Rhaid rhoi gwybod i’r Ganolfan Gwasanaeth Anabledd os yw eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft mae eich cyflwr yn gwella neu mae angen mwy o help arnoch.

Asesiadau

Efallai cewch lythyr yn dweud bod angen i chi fynychu asesiad i wirio’r lefel o help sydd ei angen arnoch. Mae’r llythyr yn egluro pam, a ble sydd angen i chi fynd. Efallai y bydd eich budd-dal yn cael ei atal os nad ydych yn mynychu.

Yn yr asesiad, gofynnir i chi am brawf o bwy ydych. Gallwch ddefnyddio pasbort neu unrhyw 3 o’r canlynol:

  • tystysgrif geni
  • trwydded yrru llawn
  • polisi yswiriant bywyd
  • cyfriflenni banc

Sut rydych yn cael eich talu

Fel arfer mae DLA yn cael ei dalu bob 4 wythnos ar ddydd Mercher.

Os yw eich dyddiad talu ar ŵyl y banc, fel arfer byddwch yn cael eich talu cyn gŵyl y banc. Ar ôl hynny byddwch yn parhau i gael eich talu fel arfer.

Mae pob budd-dal, pensiwn a lwfans yn cael eu talu i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

Help ychwanegol

Efallai y gallwch gael budd-daliadau ychwanegol os ydych yn cael Lwfans Byw i’r Anabl – gwiriwch gyda’r Canolfan Gwasanaeth Anabledd neu’r swyddfa sy’n delio â’ch budd-dal.

Os yw eich anabledd neu gyflwr iechyd yn eich atal rhag gweithio ac rydych yn gymwys am Gredyd Cynhwysol, gallech gael swm ychwanegol ar ben eich lwfans safonol Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn gweithio ac yn cael DLA, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael elfen anabledd o Gredyd Treth Gwaith (hyd at £3,685 y flwyddyn, neu hyd at £5,480 os yw’ch anabledd yn ddifrifol). I gael gwybod Cysylltwch â’r llinell gymorth credydau treth.