Dod yn benodai ar gyfer rhywun sy'n hawlio budd-daliadau

Gallwch wneud cais am yr hawl i ddelio â budd-daliadau rhywun sy’n methu rheoli eu materion eu hunain oherwydd eu bod yn analluog yn feddyliol neu’n ddifrifol anabl.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Dim ond 1 penodai sy’n gallu gweithredu ar ran rhywun sydd â hawl i fudd-daliadau (yr hawlydd) gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Gall penodai fod yn:

  • unigolyn, er enghraifft ffrind neu berthynas
  • sefydliad neu gynrychiolydd sefydliad, er enghraifft cyfreithiwr neu gyngor lleol

Gallwch helpu rhywun gyda’u cais am fudd-dal heb ddod yn benodai.

Cyfrifoldebau penodai

Fel penodai rydych yn gyfrifol am wneud a chynnal unrhyw geisiadau am fudd-daliadau. Rhaid i chi:

  • lofnodi’r ffurflen gais am fudd-daliadau
  • ddweud wrth y swyddfa budd-daliadau am unrhyw newidiadau sy’n effeithio ar faint mae’r hawlydd yn ei gael
  • gwario’r budd-dal (sy’n cael ei dalu’n uniongyrchol i chi) er budd gorau’r hawlydd
  • dweud wrth y swyddfa budd-daliadau os ydych yn rhoi’r gorau i fod yn benodai, er enghraifft mae’r hawlydd nawr yn gallu rheoli eu materion eu hunain

Os yw’r budd-dal yn cael ei ordalu, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gallech fod yn gyfrifol.

Gwneud cais i ddod yn benodai

Mae pwy rydych yn ei ffonio i wneud cais yn dibynnu ar y budd-dal:

Mae proses wahanol ar gyfer credydau treth.

Camau nesaf

  1. Mae DWP yn trefnu ymweld â’r hawlydd i asesu os oes angen penodai.

  2. Mae DWP yn eich cyfweld â chi i wneud yn siŵr eich bod yn benodai addas.

  3. Yn ystod y cyfweliad, rydych chi a’r person sy’n eich cyfweld yn llenwi ffurflen gais i fod yn benodai (Ffurflen BF56)

  4. Os yw DWP yn cytuno â’r cais, anfonir Ffurflen BF57 atoch (yn cadarnhau eich bod wedi cael eich penodi’n ffurfiol i weithredu ar ran yr hawlydd). Nid chi yw’r penodai nes bod hyn yn digwydd.

Ar ôl i chi gael eich awdurdodi, bydd DWP yn monitro’r sefyllfa i wneud yn siŵr ei bod yn dal i fod yn addas i chi a’r hawlydd.

Rhoi’r gorau i fod yn benodai

Cysylltwch â’r DWP ar unwaith os ydych am roi’r gorau i fod yn benodai. Ffoniwch y swyddfa budd-daliadau sy’n delio â’r cais - bydd y rhif ar unrhyw lythyrau maent wedi’u hanfon atoch.

Gellir atal eich penodiad os:

  • nad ydych yn gweithredu’n briodol o dan delerau’r penodiad
  • mae’r hawlydd yn amlwg yn gallu rheoli eu budd-daliadau eu hunain
  • rydych chi’n dod yn analluog eich hun - rhowch wybod i’r DWP ar unwaith

Os oes angen i chi reoli budd-daliadau gan lywodraethau’r Alban neu Ogledd Iwerddon

Rhaid i chi wneud cais i fod yn benodai gyda naill ai:

Os oes angen i chi hefyd reoli budd-daliadau gan DWP

Bydd y DWP yn derbyn prawf o’ch awdurdod i weithredu gan Social Security Scotland neu’r Department for Communities in Northern Ireland. Nid oes angen i chi wneud cais ar wahân i ddod yn benodai gyda’r DWP.