Lwfans Gweini
Cymhwyster
Gallwch gael Lwfans Gweini os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac mae’r canlynol yn berthnasol (oni bai y gallech fod â 12 mis neu’n llai i fyw):
- mae gennych anabledd corfforol (gan gynnwys anabledd synhwyraidd, er enghraifft dallineb), anabledd meddwl (gan gynnwys anawsterau dysgu), neu’r ddau
- mae eich anabledd yn ddigon difrifol bod angen help arnoch i ofalu amdanoch chi’ch hun neu rywun i’ch goruchwylio, er eich diogelwch chi neu ddiogelwch rhywun arall
- rydych chi wedi bod angen yr help hwnnw am o leiaf 6 mis
Mae’n rhaid i chi hefyd:
- bod ym Mhrydain Fawr pan fyddwch yn gwneud cais - mae rhai eithriadau, fel aelodau ac aelodau teulu’r lluoedd arfog
- wedi bod ym Mhrydain Fawr am o leiaf 2 o’r 3 blynedd diwethaf (nid yw hyn yn berthnasol os ydych chi’n ffoadur neu os oes gennych statws amddiffyn dyngarol)
- bod yn preswylio’n arferol yn y DU, Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
- ddim yn destun i reolaeth mewnfudo (oni bai eich bod yn fewnfudwr noddedig)
- ddim yn cael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) neu Daliad Anabledd Oedolion (ADP)
Os gallech fod â 12 mis neu lai i fyw
Gallwch gael Lwfans Gweini yn gyflymach ac ar y gyfradd uwch os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw. Mae hyn weithiau’n cael ei alw’n ‘reolau arbennig’.
Os ydych yn byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Efallai y byddwch yn dal i allu cael Lwfans Gweini os ydych yn ddinesydd yn y DU a’ch bod yn byw neu’n symud i’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir.
Darllenwch ganllaw i ddarganfod a allwch chi gael budd-daliadau yn yr UE, yr AEE neu’r Swistir.
Os ydych mewn cartref gofal
Fel rheol ni allwch gael Lwfans Gweini os ydych chi’n byw mewn cartref gofal a bod eich awdurdod lleol yn talu am eich gofal. Gallwch barhau i hawlio Lwfans Gweini os ydych chi’n talu am eich holl gostau cartref gofal eich hun.
Os oes angen asesiad arnoch
Dim ond os yw’n aneglur sut mae’ch salwch neu anabledd yn effeithio arnoch y bydd angen i chi fynd i asesiad i wirio’ch cymhwysedd.
Os oes angen asesiad arnoch, byddwch yn cael llythyr yn dweud pam a ble mae’n rhaid i chi fynd. Yn ystod yr asesiad, bydd angen i weithiwr meddygol proffesiynol eich archwilio.