Sut mae’n gweithio

Nid ydych yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn awtomatig - mae rhaid i chi wneud cais amdano. Dylech gael llythyr yn dweud wrthych beth i’w wneud, heb fod yn hwyrach na 2 fis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Gallwch naill ai wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth neu oedi (gohirio) gwneud cais amdano.

Os ydych eisiau gohirio, nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth. Bydd eich pensiwn yn cael ei ohirio yn awtomatig hyd nes byddwch yn gwneud cais amdano.

Gallai gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth gynyddu’r taliadau a gewch pan fyddwch yn penderfynu gwneud cais amdano. Gallai unrhyw daliadau ychwanegol a gewch wrth ohirio gael eu trethu.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os ydych yn cael budd-daliadau

Ni allwch gael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol os ydych yn cael budd-daliadau penodol. Gallai gohirio hefyd effeithio ar faint a gewch mewn budd-daliadau.

Mae rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Pensiwn os ydych yn cael budd-daliadau ac eich bod eisiau gohirio.