Os ydych yn cael budd-daliadau neu gredydau treth

Ni allwch adeiladu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn ystod unrhyw gyfnod rydych yn cael:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Gofalwr
  • Taliad Cymorth Gofalwr
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Pensiwn Gwraig Weddw
  • Lwfans Rhiant Gweddw
  • Atodiad Anghyflogadwy

Ni allwch adeiladu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol yn ystod unrhyw gyfnod y mae eich partner yn cael:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)

Rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn os ydych ar fudd-daliadau ac rydych eisiau oedi.

Bydd angen i chi oedi am isafswm o amser cyn i’ch Pensiwn y Wladwriaeth dechrau cynyddu. Bydd hyn yn naill ai 9 neu 5 wythnos, yn dibynnu ar pan rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Nid yw amser pan rydych chi neu’ch partner yn cael y budd-daliadau hyn yn cyfri tuag at yr amser hynny.

Taliadau wythnosol uwch

Gallai cymryd Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol fel taliadau wythnosol uwch ostwng y swm a gewch o:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Budd-dal Tai
  • Gostyngiad Treth Cyngor
  • credydau treth

Os gwnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016

Gallai eich taliadau credydau treth neu Gredyd Cynhwysol ostwng os ydych yn dewis i gymryd eich Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol fel cyfandaliad.

Taliad Tanwydd Gaeaf

Rydych angen gwneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf os ydych wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth. Dim ond unwaith rydych angen gwneud hyn.

Cael help

Cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych angen help i ddeall sut y gallai eich budd-daliadau gael eu heffeithio.