Os gyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016

Gallwch gael y Pensiwn y Wladwriaeth rydych chi wedi’i ohirio fel:

  • taliad ôl-ddyledion untro o hyd at 52 wythnos (12 mis)
  • taliadau rheolaidd cynyddol (a elwir yn ‘Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol’)
  • taliad ôl-ddyledion untro a thaliadau rheolaidd cynyddol

Cael taliad ôl-ddyledion untro

Dim ond taliad ôl-ddyledion untro o hyd at 52 wythnos y gallwch ei hawlio.

Os byddwch chi’n gohirio am fwy na 52 wythnos, byddwch chi’n cael y gweddill fel Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Enghraifft

Os byddwch chi’n gohirio’ch Pensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn am 52 wythnos, byddwch chi’n cael taliad ôl-ddyledion untro o £11,973.

Os byddwch chi’n gohirio’ch Pensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn am 27 wythnos, byddwch chi’n cael taliad ôl-ddyledion untro o £6,216.75

Ni chaiff unrhyw log ei ychwanegu at eich taliad ôl-ddyledion untro.

Cael taliadau rheolaidd uwch

Gallwch gael eich pensiwn gohiriedig fel taliad ychwanegol ar ben eich taliad rheolaidd.

Rhaid i chi ohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 9 wythnos cyn y gallwch hawlio taliadau rheolaidd uwch.

Am bob 9 wythnos y byddwch yn gohirio, byddwch yn cael 1% wedi’i ychwanegu at eich taliad pensiwn wythnosol rheolaidd am oes.

Mae hyn yn gweithio allan fel ychydig o dan 5.8% am bob 52 wythnos (12 mis) y byddwch yn gohirio.

Enghraifft

Rydych yn cael £230.25 yr wythnos (Pensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn).

Os byddwch yn gohirio am 52 wythnos, byddwch yn cael £13.35 ychwanegol yr wythnos (5.8% o £230.25).

Os byddwch yn gohirio am 104 wythnos (2 flynedd), byddwch yn cael £26.70 ychwanegol yr wythnos (11.6% o £230.25).

Bydd yn cymryd dros 15 mlynedd i gael 52 wythnos o Bensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn gohiriedig yn ôl. Mae’r amser hwn yn cynyddu tua 1 flwyddyn am bob 52 wythnos ychwanegol y byddwch yn gohirio hawlio.

Cael taliad ôl-ddyledion untro a thaliadau rheolaidd cynyddol

Gallwch gael eich pensiwn gohiriedig fel taliad ôl-ddyledion untro a thaliadau rheolaidd cynyddol.

Enghraifft

Os byddwch yn gohirio eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth llawn am 78 wythnos (18 mis), gallwch ôl-ddyddio eich hawliad 12 mis a chael taliad ôl-ddyledion untro o £11,973.

Am y 26 wythnos ychwanegol a ohiriwyd, byddwch yn cael taliad Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol o £6.65 yr wythnos (2.89% o £230.25).

Gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig

Gwnewch gais am Bensiwn Newydd y Wladwriaeth gohiriedig.

Mae ffordd wahanol o hawlio os:

Cael cymorth

Cysylltwch â Gwasanaeth Pensiwn os oes angen cymorth arnoch.