Sut i wneud cais

Ni fyddwch yn cael eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth yn awtomatig – mae’n rhaid i chi wneud cais amdano.

Byddwch angen:

  • dyddiad eich priodas, partneriaeth sifil neu ysgariad diweddaraf
  • dyddiadau unrhyw amser rydych wedi’i dreulio yn byw neu’n gweithio dramor
  • manylion eich banc neu gymdeithas adeiladu

Os ydych yn gwneud cais ar-lein, byddwch hefyd angen y cod gwahoddiad o’r llythyr am gael eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Os nad ydych wedi cael llythyr gwahoddiad ond rydych o fewn 3 mis o gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wneud cais am god gwahoddiad.

Gwneud cais nawr

Mae sut i wneud cais yn wahanol os byddwch yn gwneud cais o Ogledd Iwerddon neu os ydych yn gwneud cais o dramor, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel.

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gwneud cais dros y ffôn

Os ydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 4 mis nesaf, gallwch ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn i wneud cais.

Gwneud cais trwy’r post

Mae angen i chi ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn i gael ffurflen gais Pensiwn y Wladwriaeth wedi’i hanfon atoch.

Anfonnwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i:

Pension Service 8
Post Handling Site B
Wolverhampton
WV98 1AF

Ar ôl i chi wneud cais

Rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn os yw’ch amgylchiadau’n newid.

Os ydych eisiau parhau i weithio

Gallwch wneud cais am eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth hyd yn oed os ydych yn parhau i weithio. Fodd bynnag, gallwch oedi (gohirio) gwneud cais am eich pensiwn y wladwriaeth er mwyn cynyddu’r swm a gewch.

Gwneud cais am bensiwn Ynys Manaw

Os ydych yn gymwys i gael pensiwn y wladwriaeth o Ynys Manaw, bydd angen i chi wneud cais amdano ar wahân i’ch Pensiwn Newydd y Wladwriaeth o’r DU.

Darganfyddwch os ydych yn gymwys i wneud cais am eich pensiwn Ynys Manaw.

Byddwch yn cael un taliad ar gyfer eich pensiwn yn y DU a thaliad ar wahân ar gyfer eich pensiwn Ynys Manaw.

Ni allwch ohirio pensiwn Ynys Manaw ar ôl 6 Ebrill 2016.