Pryd fyddwch yn cael eich talu

Ar ôl i chi wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth byddwch yn cael llythyr am eich taliadau.

Fel arfer, mae’r Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn cael ei dalu i’ch cyfrif bob 4 wythnos. Os ydych eisiau newid y cyfrif, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Pensiwn.

Mae rheolau gwahanol os ydych yn byw dramor.

Eich taliad cyntaf

Gofynnir i chi pryd rydych am ddechrau cael eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn gwneud cais. Ni fydd eich taliad cyntaf yn hwyrach na 5 wythnos ar ôl y dyddiad y byddwch yn dewis.

Byddwch yn cael taliad llawn bob 4 wythnos ar ôl hynny.

Efallai y byddwch yn cael rhan o daliad cyn eich taliad llawn cyntaf. Bydd y llythyr sy’n cadarnhau eich taliad Pensiwn y Wladwriaeth yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl.

Eich diwrnod talu

Mae’r diwrnod y caiff eich pensiwn ei dalu yn dibynnu ar eich rhif Yswiriant Gwladol.

Efallai y byddwch yn cael eich talu’n gynharach os bydd eich diwrnod talu arferol ar ŵyl y banc.

Y 2 ddigid olaf o’ch rhif Yswiriant Gwladol Diwrnod talu o’r wythnos
00 i 19 Dydd Llun
20 i 39 Dydd Mawrth
40 i 59 Dydd Mercher
60 i 79 Dydd Iau
80 i 99 Dydd Gwener