Beth fyddwch yn ei gael

Mae swm eich Pensiwn y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Gwiriwch eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i weld beth y gallech ei gael a phryd. Mae hefyd yn dangos eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Cyfradd llawn Pensiwn Newydd y Wladwriaeth yw £221.20 yr wythnos. Gall eich swm fod yn wahanol yn dibynnu ar:

Os ydych yn cael llai na £221.20 yr wythnos

Efallai y byddwch angen mwy o flynyddoedd cymhwyso Yswiriant Gwladol i gynyddu eich Pensiwn y Wladwriaeth.

Os dechreuodd eich cofnod Yswiriant Gwladol cyn Ebrill 2016 

Efallai eich bod wedi cael eich eithrio allan. Tra roeddech wedi eich eithrio allan, roeddech chi neu’ch cyflogwr yn talu mwy i’ch pensiwn gweithle neu bensiwn preifat a llai i mewn i’ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Os oeddech wedi eich eithrio allan, fel arfer byddwch angen mwy na 35 o flynyddoedd cymhwyso i gael y gyfradd lawn o Pensiwn newydd y Wladwriaeth.

Os dechreuodd eich cofnod Yswiriant Gwladol ar ôl Ebrill 2016 

Os dechreuodd eich cofnod Yswiriant Gwladol ar ôl Ebrill 2016, byddwch angen 35 o flynyddoedd cymhwyso i gael y gyfradd lawn o Bensiwn newydd y Wladwriaeth.

Os ydych yn cael mwy na £221.20 yr wythnos

Os ydych wedi talu i mewn i’r Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth cyn 2016 ac y byddech wedi cael mwy o Bensiwn y Wladwriaeth o dan yr hen reolau, byddwch yn cael ‘taliad gwarchodedig’. Telir hyn ar ben cyfradd lawn Pensiwn newydd y Wladwriaeth.

Cynnydd blynyddol

Mae Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn cynyddu bob blwyddyn gan ba un bynnag yw’r uchaf:

  • enillion – y twf canrannol cyfartalog mewn cyflogau (ym Mhrydain Fawr)
  • prisiau – y twf canrannol mewn prisiau yn y DU a fesurir gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI)
  • 2.5%

Os oes gennych daliad gwarchodedig, mae’n cynyddu bob blwyddyn yn unol â’r CPI.

Gwybodaeth bellach

Gallwch ddarllen ‘Eich Pensiwn Newydd y Wladwriaeth wedi’i egluro’ i gael mwy o wybodaeth fanwl am y cynllun Pensiwn newydd y Wladwriaeth.