Etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth sydd wedi’i ohirio

Fel arfer, gallwch etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • cyrhaeddodd eich partner oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
  • roeddech wedi priodi, neu mewn partneriaeth sifil gyda, eich partner pan fuont farw
  • roedd eich partner wedi gohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hawlio eu Pensiwn y Wladwriaeth wedi’u ohirio pan fuont farw
  • ni wnaethoch ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os bu farw eich partner cyn 6 Ebrill 2010, mae rhaid i un o’r canlynol hefyd fod yn berthnasol:

  • roeddech dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw eich partner
  • roeddech o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth pan fu farw eich partner, rydych yn fenyw ac roedd eich partner a fu farw yn ŵr i chi

Dim ond os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth y gallwch dderbyn unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth ychwanegol rydych wedi ei etifeddu.

Os bu farw eich partner cyn gwneud cais am eu Pensiwn y Wladwriaeth

Mae sut y byddwch yn etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner yn dibynnu ar ba mor hir roeddynt wedi gohirio eu pensiwn.

Blwyddyn neu fwy

Os gwnaeth eich partner ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth am flwyddyn neu fwy, fel arfer gallwch ddewis i’w etifeddu fel cyfandaliad neu fel taliadau wythnosol. Byddwch yn cael llythyr gyda’r opsiynau y gallwch eu dewis.

Rhwng 5 wythnos a blwyddyn

Os gwnaeth eich partner ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth rhwng 5 wythnos a blwyddyn, byddwch yn ei etifeddu fel taliadau wythnosol. Cewch y taliadau hyn gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth eich hun.

Llai na 5 wythnos

Os gwnaeth eich partner ohirio eu Pensiwn y Wladwriaeth gan lai na 5 wythnos, bydd eu taliadau Pensiwn y Wladwriaeth am yr wythnosau hynny yn mynd yn rhan o’u hystad (cyfanswm eu heiddo, arian a buddsoddiadau).

Os oedd eich partner yn cael eu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol cyn iddynt farw.

Byddwch yn etifeddu Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol eich partner fel taliadau wythnosol ychwanegol. Cewch y taliadau hyn gyda’ch Pensiwn y Wladwriaeth eich hun.