Oedi (gohirio) eich Pensiwn y Wladwriaeth
Os gyrhaeddoch oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016
Gallwch gael y Pensiwn y Wladwriaeth rydych chi wedi’i ohirio fel naill ai:
- taliadau rheolaidd cynyddol (a elwir yn ‘Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth’)
- taliad swm unigol
Ni allwch gael taliadau rheolaidd cynyddol a swm unigol (oni bai eich bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac wedi gohirio cyn 2005).
Pan fyddwch chi’n hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch chi’n cael llythyr yn gofyn sut hoffech chi gael eich pensiwn gohiriedig. Bydd gennych chi 3 mis o’r dyddiad ar y llythyr i benderfynu.
Cael taliadau rheolaidd cynyddol
Gallwch gael eich pensiwn gohiriedig fel taliad ychwanegol ar ben eich taliadau rheolaidd.
Rhaid i chi ohirio’ch Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 5 wythnos.
Am bob 5 wythnos rydych chi’n ei ohirio, byddwch chi’n cael 1% o’r swm hwnnw wedi’i ychwanegu at eich taliad rheolaidd am oes.
Mae hyn yn dod i ychydig o dan 10.4% am bob 52 wythnos (12 mis) rydych chi’n ei ohirio.
Enghraifft
Rydych chi’n cael £176.45 yr wythnos (y Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth llawn).
Drwy ohirio am 52 wythnos, byddwch yn cael £18.35 ychwanegol yr wythnos (10.4% o £176.45).
Cael taliad untro
Rhaid i chi ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth am o leiaf 12 mis i gael ‘taliad swm unigol’ untro.
Bydd y swm a gewch yn cynnwys llog o 2% uwchlaw cyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
Gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig
Gwnewch gais am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth gohiriedig.
Mae ffordd wahanol o hawlio os:
-
rydych chi’n byw dramor, gan gynnwys yn Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
Cael cymorth
Cysylltwch â llinell hawlio Pensiwn y Wladwriaeth os oes angen cymorth arnoch.