Sut mae’n gweithio

Os na fyddwch chi’n hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd yn cael ei ohirio’n awtomatig. Nid oes rhaid i chi wneud dim.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Pan fyddwch chi’n hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth, fel arfer gallwch chi gael y Pensiwn y Wladwriaeth rydych chi wedi’i ohirio fel:

  • taliad untro
  • taliadau rheolaidd cynyddol (a elwir yn ‘Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth’)

Gallai unrhyw daliadau ychwanegol a gewch chi o ohirio gael eu trethu.

Mae’r hyn a gewch yn dibynnu ar pryd y byddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Cyrhaeddoch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2016 os naill ai:

  • rydych chi’n ddyn a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1951
  • rydych chi’n fenyw a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 1953

Cyrhaeddoch chi oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2016 os naill ai:

  • rydych chi’n ddyn a aned cyn 6 Ebrill 1951
  • rydych chi’n fenyw a aned cyn 6 Ebrill 1953

Os ydych chi’n cael budd-daliadau

Ni allwch chi gronni Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig tra byddwch chi neu’ch partner yn cael rhai budd-daliadau.

Os ydych chi wedi treulio amser yn y carchar

Ni allwch gronni Pensiwn y Wladwriaeth gohiriedig am unrhyw amser rydych chi wedi’i dreulio yn y carchar.