Yswiriant Gwladol Gwirfoddol
Gwirio pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol y gallwch eu talu
Dysgwch a allwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn seiliedig ar bethau fel eich statws cyflogaeth, oedran a ble rydych chi’n byw.
Os ydych yn gyflogedig
Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol os ydych yn gyflogedig ac mae’r ddau beth canlynol yn wir:
- rydych yn ennill llai na £125 yr wythnos
- nad ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol
Os ydych yn hunangyflogedig
Gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 os ydych yn hunangyflogedig a bod gennych naill ai:
- incwm gros o £1,000 neu lai
- incwm gros dros £1,000, ond gydag elw o lai na £6,845
Os ydych chi’n hunangyflogedig fel arholwr, gweinidog yr efengyl, landlord neu mewn busnes buddsoddi, gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3.
Mae cyfraniadau gwirfoddol yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau. Gallwch wirio pa fudd-daliadau y mae’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag atynt.
Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig
Gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol os:
- ydych yn ennill llai na £125 o gyflogaeth
- oes gennych elw sy’n llai na £6,845 y flwyddyn o hunangyflogaeth
Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i wirio os oes gennych flwch mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi a fydd o fudd i chi wneud taliad.
Os ydych chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn i wirio a oes gennych fwlch. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi a fydd o fudd i chi wneud taliad.
Os ydych yn ddi-waith
Gallwch dalu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol os ydych yn ddi-waith ac mae’r ddau beth canlynol yn wir:
- nid ydych yn hawlio budd-daliadau
- nid ydych yn cael credydau Yswiriant Gwladol
Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor (neu wedi gwneud yn flaenorol)
I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 mae’n rhaid i chi naill ai:
- wedi byw yn y DU am 3 blynedd yn olynol
- fod wedi talu cyfraniadau, neu wedi trin cyfraniadau Dosbarth 2 fel pe baent wedi’u talu am o leiaf 3 blynedd
I dalu cyfraniadau gwirfoddol Dosbarth 2, mae’n rhaid i’r ddau o’r canlynol fod yn berthnasol hefyd:
- roeddech yn gweithio yn y DU yn syth cyn gadael
- rydych yn gweithio dramor ar hyn o bryd (neu wedi bod yn gweithio tra roeddech dramor)
Rhwng Tachwedd 2017 ac Ebrill 2019, roedd arweiniad CThEF yn anghywir. Mae’n dweud bod yn rhaid i’r holl amodau hyn fod yn wir. Os na wnaethoch gais neu os gwrthodwyd eich cais o ganlyniad i’r arweiniad anghywir, mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu ar y cyfraddau gwreiddiol. Esboniwch eich sefyllfa pan fyddwch yn gwneud cais.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y 6 mis nesaf, cysylltu â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg). Byddant yn gwirio a oes gennych fwlch mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i chi ei dalu.
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) ac am lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gallwch dalu:
- cyfraniadau Dosbarth 3
- cyfraniadau Dosbarth 2 os ydych yn gymwys