Rhoi eich eiddo ar osod
Talu treth ac Yswiriant Gwladol
Pan fyddwch yn rhoi eiddo ar osod, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth. Gallwch ddewis i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol er mwyn bod yn gymwys i gael Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau penodol.
Yswiriant Gwladol
Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os ystyrir eich bod yn ‘gyflogedig â thâl’ at ddibenion Yswiriant Gwladol - er enghraifft, yn yr achosion canlynol:
- bod yn landlord yw eich prif swydd
- rydych yn rhoi mwy nag un eiddo ar osod
- rydych yn prynu eiddo newydd i’w roi ar osod
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn cyfrif fel ‘cyflogedig â thâl’, darllenwch ‘talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol fel landlord’(yn argor tudalen Saesneg).
Os nad ydych yn gymwys, efallai y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol yn lle hynny, er enghraifft, os oes gennych brif waith arall ond eich bod yn dal i wneud y canlynol:
- casglu rhent
- trefnu neu wneud atgyweiriadau
- cynnal a chadw ardaloedd cyffredin
- paratoi eiddo rhwng cyfnodau gosod
- hysbysebu am denantiaid
- trefnu cytundebau tenantiaeth
Eiddo sy’n berchen i chi’n bersonol
Mae’r £1,000 cyntaf o’ch incwm o roi eiddo ar osod yn rhydd o dreth. Dyma’ch ‘lwfans eiddo’.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os yw’ch incwm o roi eiddo ar osod yn fwy na £1,000 y flwyddyn, hyd at £2,500.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod amdano ar Ffurflen Dreth Hunanasesiad os yw’n fwy na:
- £2,500 ar ôl treuliau caniataol
- £10,000 cyn treuliau caniataol
Os nad ydych yn anfon Ffurflen Dreth fel arfer, bydd angen i chi gofrestru erbyn 5 Hydref yn dilyn y flwyddyn dreth a gawsoch incwm rhent.
Gwirio sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Datgan treth heb ei thalu
Gallwch ddatgan treth heb ei thalu drwy roi gwybod i CThEF am incwm rhent o flynyddoedd blaenorol (yn agor tudalen Saesneg). Os oes rhaid i chi dalu cosb, bydd y gosb honno yn is na phe bai CThEF yn dod o hyd i’r incwm ei hunan.
Cewch gyfeirnod y datgeliad. Ar ôl i chi gael y cyfeirnod bydd gennych 3 mis i gyfrifo’r hyn sydd arnoch a’i dalu.
Peidiwch â chynnwys y lwfans eiddo rhydd o dreth o £1,000 am unrhyw flynyddoedd treth cyn 2017 i 2018.
Eiddo a berchnogir gan gwmni
Cyfrifwch yr incwm rhent yn yr un ffordd ag y byddech yn cyfrifo unrhyw incwm busnes arall.
Costau y gallwch eu hawlio i ostwng treth
Mae rheolau treth gwahanol ar gyfer:
- eiddo preswyl
- fflatiau gwyliau wedi’u dodrefnu (daeth y rheolau i ben ym mis Ebrill 2025)
- eiddo masnachol
Eiddo preswyl
Mae’n rhaid i chi, neu’ch cwmni, dalu treth ar yr elw a wnewch o roi’r eiddo ar osod ar ôl didynnu ‘treuliau caniataol’.
Mae treuliau caniataol yn bethau y mae angen i chi wario arian arnynt wrth redeg yr eiddo o ddydd i ddydd, megis:
- ffioedd asiantau gosod eiddo
- ffioedd cyfreithiol ar gyfer gosod eiddo am flwyddyn neu lai, neu ar gyfer adnewyddu prydles am lai na 50 mlynedd
- ffioedd cyfrifwyr
- yswiriant ar gyfer yr adeiladau a’r cynnwys
- gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio’r eiddo (ond nid gwelliannau)
- biliau cyfleustodau, fel nwy, dŵr a thrydan
- rhent, rhent tir, taliadau gwasanaeth
- Treth Gyngor
- gwasanaethau rydych yn talu amdanynt, fel glanhau neu arddio
- costau uniongyrchol eraill o roi’r eiddo ar osod, fel galwadau ffôn, deunydd ysgrifennu a hysbysebu
Os ydych chi’n gwmni sy’n talu Treth Gorfforaeth, gallwch hawlio llog ar fenthyciadau eiddo fel traul caniataol. Ni allwch wneud hyn os ydych yn landlord unigol sy’n talu Treth Incwm.
Nid yw treuliau caniataol yn cynnwys ‘gwariant cyfalaf’ – megis prynu eiddo neu ei adnewyddu y tu hwnt i atgyweiriadau o achos traul.
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio rhyddhad treth ar arian sy’n cael ei wario ar amnewid ‘eitem ddomestig’. Gelwir hyn yn ‘rhyddhad am amnewid eitemau domestig’.
Mae eitemau domestig yn cynnwys:
- gwelyau
- soffas
- llenni
- carpedi
- oergelloedd
- llestri a chyllyll a ffyrc
Mae’n rhaid eich bod ond wedi prynu’r eitem ddomestig i’w defnyddio gan denantiaid mewn eiddo preswyl, ac ni ddylid defnyddio’r eitem a amnewidiwyd gennych yn yr eiddo hwnnw fwyach.
Fflatiau gwyliau wedi’u dodrefnu (cyn Ebrill 2025)
Daeth y rheolau treth ar gyfer llety gwyliau wedi’u dodrefnu i ben:
- 1 Ebrill 2025 ar gyfer Treth Gorfforaeth a Threth Gorfforaeth ar enillion trethadwy
- 6 Ebrill 2025 ar gyfer Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf
Os byddwch yn cyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer blynyddoedd treth hyd at a chan gynnwys Ebrill 2024 i 2025, mae’n bosibl y gallwch hawlio rhai rhyddhadau a lwfansau.
Mae’n bosibl y gallwch hawlio rhyddhad Treth Enillion Cyfalaf, gan gynnwys:
- Rhyddhad Trosglwyddo Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg)
- Rhyddhad Gwaredu Ased Busnes (yn agor tudalen Saesneg)
- Rhyddhad Daliol ar Roddion (yn agor tudalen Saesneg)
- Rhyddhad am golledion ar fenthyciadau i fasnachwyr (yn agor tudalen Saesneg)
Efallai y gallwch hefyd hawlio lwfansau cyfalaf, gan gynnwys lwfansau gostwng gwerth, lwfansau cydbwyso a thaliadau cydbwyso. Mae’n rhaid eich bod wedi ychwanegu gwariant cyfalaf at gronfa lwfansau cyfalaf erbyn 5 Ebrill 2025. Gallwch barhau i hawlio ar y gwariant sydd yn y gronfa nes iddo gael ei ddefnyddio’n llawn neu nes i chi wneud hawliad cronfeydd bychan.
Mae’n bosibl mai dim ond os oedd pob un o’r canlynol yn berthnasol y byddwch yn gallu hawlio:
- roedd yr eiddo ar gael ar osod fel llety gwyliau wedi’i ddodrefnu am o leiaf 210 diwrnod y flwyddyn
- roedd yr eiddo ar gael ar osod i’r cyhoedd fel llety gwyliau wedi’i ddodrefnu am o leiaf 105 diwrnod y flwyddyn
- nid oedd gosodiadau hir (31 diwrnod neu fwy yn olynol) yn fwy na chyfanswm o 155 diwrnod mewn blwyddyn
- roeddech yn codi’r gyfradd sylfaenol ar gyfer eiddo tebyg yn yr ardal (‘gwerth marchnadol’)
I gael help gyda’ch Ffurflen Dreth hyd at a chan gynnwys blwyddyn dreth 2024 i 2025, gallwch ddefnyddio’r daflen gymorth lwfansau cyfalaf (yn agor tudalen Saesneg) a’r daflen gymorth llety gwyliau wedi’i dodrefnu (yn agor tudalen Saesneg).
Eiddo masnachol
Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf offer a pheiriannau ar rai eitemau os ydych yn rhoi eiddo masnachol ar osod - fel siop, garej neu garejis cloi.
Cyfrifo’ch elw
Rydych yn cyfrifo’r elw neu’r golled net ar gyfer pob eiddo sydd gennych ar osod (ac eithrio llety gwyliau wedi’i ddodrefnu) fel pe bai’n fusnes sengl. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- adio eich holl incwm rhent at ei gilydd
- adio eich holl dreuliau caniataol at ei gilydd
- tynnu’r treuliau o’r incwm
Cyfrifwch yr elw neu’r golled o lety gwyliau wedi’i ddodrefnu ar wahân i unrhyw fusnes rhentu eiddo arall er mwyn sicrhau eich bod ond yn hawlio’r manteision treth hyn ar gyfer eiddo cymwys.
Gwneud colled
Didynnwch unrhyw golledion o’ch elw a nodwch y ffigur ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gallwch wrthbwyso eich colled yn erbyn y canlynol:
- elw yn y dyfodol drwy ei gario ymlaen i flwyddyn ddiweddarach
- elw o eiddo eraill (os oes gennych rai)
Gallwch gario eich colled ymlaen i’w gosod yn erbyn elw yn y dyfodol o’r un busnes yn unig.