Skip to main content

Rhoi eich eiddo ar osod

Sgipio cynnwys

Newid tenantiaeth rheoleiddiedig (rhent teg)

Mae rheolau arbennig ar gyfer newid rhent a thermau ar gyfer tenantiaethau rheoleiddiedig (a elwir weithiau’n ‘rhent teg’), fel arfer rhai a ddechreuodd cyn 15 Ionawr 1989.

Pryd y gallwch gynyddu rhent

Gallwch gynyddu’r rhent hyd at yr uchafswm a bennir gan y Swyddfa Brisio (VO) yn unig – gwiriwch y gofrestr rhent teg i weld beth yw’r swm hwn.

Gallwch ofyn i’r VO adolygu’r rhent bob 2 flynedd, neu’n gynharach os oes rhywbeth wedi effeithio ar y gwerth, fel ei fod yn parhau’n deg. Mae’n bosibl y bydd eich rhent yn cynyddu neu’n gostwng.

Gallwch lawrlwytho a llenwi ffurflen rhent teg (yn agor tudalen Saesneg) i gael eich rhent wedi’i adolygu. Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i Swyddfa Cymorth Rhwydwaith y VOA drwy’r post.

Swyddfa Cymorth Rhwydwaith Asiantaeth y VOA / VOA Network Support Office
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW

E-bostiwch Swyddfa Cymorth Rhwydwaith y VOA os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch cynyddu eich rhent.

Swyddfa Cymorth Rhwydwaith Asiantaeth y VOA / VOA Network Support Office NSOhelpdesk@voa.gsi.gov.uk

Os yw’r rhent teg yn cynyddu

Mae’n rhaid i chi gyflwyno hysbysiad o gynnydd mewn rhent i’ch tenant. Gallwch godi’r rhent newydd o’r dyddiad y mae wedi’i gofrestru.

Llenwch ffurflen ‘hysbysiad o gynnydd’ (sydd ar gael gan gyflenwyr ffurflenni a dogfennau cyfreithiol) a’i hanfon at eich tenant.

Gallwch ôl-ddyddio eich hysbysiad o gynnydd mewn rhent am hyd at 4 wythnos.

Canslo rhent sydd wedi’i gofrestru

Lawrlwythwch a llenwch ffurflen rhent deg (yn agor tudalen Saesneg) i ganslo rhent sydd wedi’i gofrestru, a’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen. Er enghraifft, os bydd y denantiaeth yn stopio cael ei rheoleiddio, neu os ydych chi a’ch tenant yn cytuno i’w chanslo.

Gall gymryd hyd at 6 wythnos i ganslo rhent sydd wedi’i gofrestru.