Rhoi eich eiddo ar osod
Datrys anghydfodau
Yn aml gallwch ddatrys anghydfodau gyda’ch tenant heb fynd i’r llys:
-
Siaradwch â’ch tenant am eich pryderon.
-
Os nad yw hyn yn gweithio, ysgrifennwch lythyr ffurfiol yn nodi’r broblem.
-
Defnyddiwch wasanaeth cyfryngu, sydd fel arfer yn rhatach ac yn gyflymach na mynd i’r llys.
-
Fel dewis olaf, ceisiwch gyngor cyfreithiol annibynnol (yn agor tudalen Saesneg) ynghylch mynd â’ch tenant i’r llys.
Mae rheolau gwahanol ar gyfer:
- datrys anghydfodau yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg)
- datrys anghydfodau ynghylch blaendaliadau (yn agor tudalen Saesneg) a materion eraill, megis rhent ac atgywiriadau (yn agor tudalen Saesneg) yng Ngogledd Iwerddon
Os yw tenant yn difrodi eich eiddo
Os byddwch yn cymryd blaendal gan eich tenant, mae’n rhaid ichi ddiogelu’r blaendal drwy gynllun Diogelu Blaendal Tenantiaeth (TDP) (yn agor tudalen Saesneg) a gymeradwywyd gan y llywodraeth.
Os yw’ch tenant yn difrodi’r eiddo, gallwch gadw rhywfaint neu’r cyfan o’r blaendal tenantiaeth i dalu cost yr atgyweiriadau.
Trafodwch gyda’ch tenant ynghylch faint o’r blaendal yr ydych yn bwriadu ei gadw. Os ydych chi a’ch tenant yn cytuno ar faint o arian y dylid ei dynnu o’r blaendal tenantiaeth, gallwch dynnu’r swm hwnnw o’r blaendal ar ddiwedd y denantiaeth.
Os na allwch chi a’ch tenant gytuno
Os na allwch gytuno ar faint o arian y dylid ei dynnu o’r blaendal, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) sydd am ddim, ac a ddarperir gan eich Cynllun Diogelu Blaendal Tenantiaeth.
Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar sail y dystiolaeth a ddarperir gennych chi a’ch tenant.
Gall ADR fod yn gyflymach ac yn rhatach na mynd i’r llys, ond bydd angen mynd i’r llys os ydych am adennill unrhyw gostau.
Mynd i’r llys
Gallwch wneud hawliad llys os oes arian yn ddyledus i chi gan eich tenant. Er enghraifft:
- nid yw’r tenant wedi talu rhent i chi
- rydych wedi cymryd blaendal gan eich tenant, mae’r tenant wedi achosi difrod ac mae cost yr atgyweiriadau yn uwch na swm y blaendal
- nid ydych wedi cymryd blaendal gan eich tenant, mae’r tenant wedi achosi difrod ac rydych am iddo dalu cost yr atgyweiriadau
Ni allwch ddefnyddio’r broses hon i droi eich tenant allan. Dysgwch ragor am droi tenantiaid allan (yn Saesneg).
Os yw’r hawliad ar gyfer:
- llai na £10,000, bydd angen ichi fynychu sesiwn gyfryngu
- mwy na £10,000, mae’n bosibl y bydd y llys yn cynnig cyfryngu i chi
Os na allwch chi a’ch tenant ddatrys yr anghydfod drwy gyfryngu, bydd rhaid i chi fynychu gwrandawiad (yn agor tudalen Saesneg).
Os ydych am i’ch tenant adael
Os ydych am i’ch tenant adael eich eiddo, gallwch ddod â’r denantiaeth i ben (yn agor tudalen Saesneg).
Mae angen ichi ddilyn rheolau penodol er mwyn osgoi aflonyddu ar eich tenant neu ei droi allan yn anghyfreithlon.
Cyngor ynghylch anghydfodau
Efallai y gallwch gael cyngor cyfreithiol cyfrinachol am ddim. Gwiriwch a allwch gael Cymorth Cyfreithiol os ydych yng Nghymru neu yn Lloegr (yn agor tudalen Saesneg).