Rhoi eich eiddo ar osod
Os bydd eich tenant yn marw heb ysgutor neu ewyllys
Os bydd tenant yn marw heb ysgutor neu ewyllys, bydd y broses ar gyfer adennill eich eiddo yn dibynnu ar p’un a yw’r eiddo yng Nghymru neu yn Lloegr.
Mae’n bosibl y cewch ddirwy os byddwch yn ceisio adfeddiannu eiddo heb ddilyn y rheolau.
Os yw’ch eiddo yn Lloegr
Bydd y denantiaeth yn cael ei throsglwyddo dros dro i’r Ymddiriedolwr Cyhoeddus.
Er mwyn adennill eich eiddo, mae angen i chi roi hysbysiad ysgrifenedig a’i gofrestru gyda’r Ymddiriedolwr Cyhoeddus.
Ni allwch gymryd eiddo’n ôl yn awtomatig hyd yn oed petai’r denantiaeth i fod i ddod i ben.
Os yw’ch eiddo yng Nghymru
Bydd y denantiaeth yn dod i ben yn awtomatig fis ar ôl i denant farw.
Fel arfer, nid oes angen i chi roi hysbysiad ysgrifenedig a’i gofrestru gyda’r Ymddiriedolwr Cyhoeddus er mwyn adennill eich eiddo.
Mae’n bosibl y bydd angen i chi gofrestru hysbysiad ysgrifenedig gyda’r Ymddiriedolwr Cyhoeddus os oes hysbysiad arall sy’n ymwneud â’r eiddo wedi’i gyflwyno. Er enghraifft, petai’r cyngor wedi cyflwyno hysbysiad yn cynghori bod angen gwneud gwaith hanfodol.
Os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i’ch eiddo, dylech siarad â’ch cyfreithiwr.
Rhoi hysbysiad ysgrifenedig
Dylech bostio neu ddanfon llythyr i gyfeiriad hysbys diwethaf y tenant yn rhoi gwybod eich bod yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig.
Cyfeiriwch yr hysbysiad ysgrifenedig at: “Cynrychiolydd Personol [enw llawn y tenant sydd wedi marw] yn [cyfeiriad hysbys diwethaf y tenant sydd wedi marw]”.
Gallai eich cais gael ei wrthod os na fyddwch yn cyfeirio’r hysbysiad ysgrifenedig yn y modd hwn.
Gwnewch gais i gofrestru’r hysbysiad ysgrifenedig
Bydd angen i chi dalu’r ffi cofrestru, sy’n £40. Bydd angen cerdyn credyd neu ddebyd arnoch.
Talu i gofrestru hysbysiad gyda’r Ymddiriedolwr Cyhoeddus (yn agor tudalen Saesneg).
Unwaith y byddwch wedi talu’r ffi, gallwch wneud cais i gofrestru’r hysbysiad. Bydd angen:
- y cyfeirnod talu
- copi electronig o’r hysbysiad ysgrifenedig
Gwnewch gais i gofrestru hysbysiad (yn agor tudalen Saesneg).
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth talu ar-lein neu’r ffurflen gais ar-lein, anfonwch e-bost at yr Ymddiriedolwr Cyhoeddus i gael gwybod sut y gallwch wneud cais mewn ffordd arall.
Yr Ymddiriedolwr Cyhoeddus todenquiries@ospt.gov.uk
Cael penderfyniad am eich cais
Bydd yr Ymddiriedolwr Cyhoeddus yn cofrestru’ch cais neu yn ei wrthod. Fel arfer, byddwch yn cael eu penderfyniad o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl anfon eich cais a’ch taliad.
Os bydd eich cais yn cael ei gofrestru, byddwch yn cael gwybod y dyddiad y cafodd ei gynnwys yn y gofrestr.
Os bydd eich cais yn cael ei wrthod, er enghraifft am ei fod yn anghyflawn, byddwch yn cael gwybod pam na all yr Ymddiriedolwr Cyhoeddus ei gofrestru.