Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad
Trosolwg
Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 i helpu i fod yn gymwys i gael rhai budd-daliadau fel Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn hunangyflogedig.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu’r cyfraniadau hyn fel rhan o’u bil treth Hunanasesiad neu mae eu cyfraniadau yn cael eu trin fel pe baent wedi’u talu.
Pryd y gallech ddewis talu
Mae’n bosibl y byddwch yn dewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol os yw’r canlynol yn wir:
-
nid ydych yn talu drwy Hunanasesiad
-
rydych am lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol - gallwch wirio’ch bod yn gymwys ar gyfer cyfnodau pan oeddech yn hunangyflogedig
-
rydych yn gweithio neu’n byw dramor, neu wedi gwneud yn y gorffennol
Os ydych fel arfer yn talu cyfraniadau Dosbarth 2 fel rhan o’ch bil Hunanasesiad ond wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer talu, bydd angen i chi gysylltu â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol i gael cyfeirnod a gwneud eich taliad.
Gallwch hefyd ddewis talu oherwydd nad ydych yn gymwys i gael eich trin fel rhywun sydd wedi talu cyfraniadau Dosbarth 2. Mae hyn yn berthnasol os ydych chi’n un o’r canlynol:
-
yn arholwr, safonwr, goruchwyliwr neu berson sy’n gosod cwestiynau arholiad
-
yn weinidog yr efengyl nad yw’n cael cyflog na thâl
-
yn berson sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes a heb gael ffi na chomisiwn
-
yn landlord ac yn gymwys i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor
Mae yna ffordd wahanol o dalu os ydych chi’n gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol. Gwiriwch a ydych yn gymwys a sut i dalu.
Sut i wneud cyfraniadau gwirfoddol Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 os ydych chi’n byw yn y DU
Bydd angen i chi gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF) os nad ydych yn talu drwy Hunanasesiad.
Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg ac fel arfer gallwch dalu cyfraniadau am y 6 blynedd dreth ddiwethaf. Gwiriwch y dyddiadau cau ar gyfer talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol.
Ar ôl i chi gofrestru
Bydd CThEF yn anfon cais am daliad atoch rhwng mis Medi a diwedd mis Hydref yn rhoi gwybod i chi faint i’w dalu.
Bydd y cais am daliad yn cynnwys cyfeirnod 18 digid o hyd y bydd ei angen arnoch er mwyn gwneud taliad.
Cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol os na fyddwch yn derbyn cais am daliad erbyn diwedd mis Tachwedd.
Ar ôl i chi gofrestru, bydd CThEF yn anfon cais am daliad atoch bob blwyddyn tan rydych wedi gwneud y canlynol:
-
rydych yn rhoi gwybod iddynt nad ydych am barhau i dalu cyfraniadau gwirfoddol
-
rydych yn rhoi’r gorau i fod yn hunangyflogedig
-
rydych yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Ffyrdd o dalu os ydych yn byw yn y DU
Bydd eich cais am daliad yn rhoi dyddiad cau i chi dalu CThEF.
Gwiriwch pa mor hir y mae angen i chi ganiatáu i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Mae yna ffordd wahanol i dalu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol os ydych chi’n gweithio neu’n byw dramor ac rydych chi’n gymwys.
Gallwch wneud taliadau sy’n cyrraedd ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf:
-
drwy fancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Daliadau Cyflymach neu CHAPS)
-
yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Caniatewch 3 diwrnod i daliadau fynd drwodd drwy’r canlynol:
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn (drwy Bacs)
Sicrhewch eich bod yn caniatáu 21 diwrnod gwaith i drefnu Debyd Uniongyrchol os nad ydych wedi trefnu un o’r blaen.
Os bydd y dyddiad cau ar ddiwrnod dros y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny. Nid oes angen i chi wneud hyn os ydych chi’n talu gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn Taliadau Cyflymach.
Os ydych yn methu’r dyddiad cau ar gyfer talu
Os byddwch yn methu’r dyddiad cau y mae CThEF wedi’i roi i chi, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gall hefyd effeithio ar eich hawl i rai budd-daliadau.
Cysylltwch â’r llinell gymorth Yswiriant Gwladol i ddarganfod faint sydd angen i chi ei dalu.
Ar ôl i chi dalu
Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF i gadarnhau bod eich taliad wedi dod i law.
Bydd yn ymddangos ar eich cofnod Yswiriant Gwladol a’ch cyfrif treth personol. Gall hyn gymryd hyd at 8 wythnos.