Skip to main content

Cyfraddau Yswiriant Gwladol i’r Hunangyflogedig

Mae’r dosbarth rydych yn ei dalu’n dibynnu ar eich elw.

Gallwch gyfrifo eich elw drwy ddidynnu eich treuliau o’ch incwm hunangyflogedig.

Mae rheolau arbennig yn berthnasol i’r canlynol:

  • landlordiaid
  • arholwyr, safonwyr, goruchwylwyr ac unigolion sy’n gosod cwestiynau arholiadau
  • gweinidogion yr efengyl
  • pobl sy’n gwneud buddsoddiadau

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Os yw’ch elw yn £7,105 neu’n fwy y flwyddyn

Caiff cyfraniadau Dosbarth 2 eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2.

Os yw’ch elw yn fwy na £12,570 y flwyddyn, mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 4.

Ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 byddwch yn talu:

  • 6% ar elw dros £12,570 hyd at £50,270
  • 2% ar elw dros £50,270

Gallwch fwrw golwg dros gyfraddau Yswiriant Gwladol ar gyfer y blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).

Os yw’ch elw yn llai na £7,105 y flwyddyn

Does dim rhaid i chi dalu dim byd, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol.

Y gyfradd Dosbarth 2 ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 yw £3.65 yr wythnos.

Sut i dalu

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a Dosbarth 4 drwy Hunanasesiad.

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) pan fyddwch yn dod yn hunangyflogedig fel unig fasnachwr neu fel partneriaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Rheolau arbennig ar gyfer swyddi penodol

Landlordiaid

Os ydych yn rhentu eiddo, gwiriwch a oes angen i chi dalu Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg).

Arholwyr, safonwyr, goruchwylwyr ac unigolion sy’n gosod cwestiynau arholiadau

Os oes angen i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4, ni allwch dalu drwy Hunanasesiad.

Y rheswm am hyn yw oherwydd bod math penodol o Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar gyfer arholwyr, safonwyr, goruchwylwyr ac unigolion sy’n gosod cwestiynau arholiadau, o’r enw Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 Arbennig. Mae’r meini prawf cymhwystra’r un fath, ond mae angen i chi dalu mewn ffordd wahanol.

I drefnu taliad, mae’n rhaid i chi gysylltu â’r swyddfa Yswiriant Gwladol.

Gweinidogion yr efengyl

Os nad ydych yn cael cyflog na thâl offeiriad, nid oes rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol.

Os hoffech wneud hynny, gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Pobl sy’n gwneud buddsoddiadau

Nid oes rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol os ydych yn gwneud buddsoddiadau ar ran eich hun neu ar ran pobl eraill os ydi’r canlynol yn berthnasol:

  • nid ydych yn gwneud hyn fel busnes
  • nid ydych yn cael ffi neu gomisiwn

Os hoffech wneud hynny, gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol.