Treuliau os ydych yn hunangyflogedig
Trosolwg
Os ydych yn hunangyflogedig, bydd gan eich busnes amryw o gostau rhedeg, a elwir hefyd yn ‘treuliau’.
Rydych yn ‘hunangyflogedig’, os ydych naill ai’n:
-
unig fasnachwr
-
unigolyn mewn partneriaeth fusnes
Gallwch ddidynnu’r costau hyn i gyfrifo’ch elw trethadwy, cyn talu Treth Incwm cyn belled â’u bod yn dreuliau caniataol.
Er enghraifft, os yw’ch trosiant yn £40,000 ac rydych yn hawlio £10,000 mewn treuliau caniataol, byddwch ond yn talu Treth Incwm ar y £30,000 sy’n weddill – sef eich ‘elw trethadwy’.
Nid yw treuliau caniataol yn cynnwys arian a gymerir o’ch busnes at ddefnydd personol.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Cwmnïau cyfyngedig
Os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig, nid ydych yn ‘hunangyflogedig’, hyd yn oed os mai chi yw’r perchennog a’r unig gyflogai.
Gallwch ddidynnu costau rhedeg eich busnes (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’ch elw trethadwy cyn talu Treth Gorfforaeth.
Costau y gallwch eu hawlio fel treuliau caniataol
Os ydych yn hunangyflogedig, gallwch ond hawlio ar gyfer costau sy’n gysylltiedig â phryniannau busnes, gan gynnwys:
-
costau swyddfa, er enghraifft deunydd ysgrifennu neu filiau ffôn
-
costau teithio, er enghraifft tanwydd, parcio, tocynnau trên neu docynnau bws
-
treuliau dillad, er enghraifft gwisgoedd unffurf
-
costau staff, er enghraifft cyflogau neu gostau isgontractwyr
-
pethau yr ydych yn eu prynu er mwyn eu gwerthu ymlaen, er enghraifft stoc neu ddeunyddiau crai
-
costau ariannol, er enghraifft costau banc neu yswiriant
-
costau eich safle busnes, er enghraifft costau gwresogi, costau goleuo, ardrethi busnes
-
hysbysebu neu farchnata, er enghraifft costau gwefan
-
cyrsiau hyfforddi sy’n gysylltiedig â’ch busnes, er enghraifft cyrsiau gloywi
Ni allwch hawlio treuliau os ydych yn defnyddio’ch ‘lwfans masnachu’ rhydd o dreth gwerth £1,000.
Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).
Costau y gallwch eu hawlio fel lwfansau cyfalaf
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf pan rydych yn prynu’r canlynol:
-
offer
-
peiriannau
-
cerbydau busnes, er enghraifft ceir, faniau, lorïau, beiciau
Ni allwch hawlio lwfansau cyfalaf os ydych yn defnyddio’ch ‘lwfans masnachu’ rhydd o dreth gwerth £1,000.
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod
Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gost y pryniant. Fodd bynnag, dylid hawlio am bob eitem arall yr ydych yn ei phrynu ac yn ei chadw ar gyfer eich busnes fel traul ganiataol yn y modd arferol.
Os ydych yn defnyddio rhywbeth at ddibenion busnes a dibenion personol
Gallwch ond hawlio treuliau caniataol ar gyfer y costau busnes.
Enghraifft
Mae’ch biliau ffôn symudol am y flwyddyn yn dod i gyfanswm o £200. O’r swm hwn, rydych yn gwario £130 ar alwadau personol a £70 ar alwadau busnes.
Gallwch hawlio £70 fel treuliau busnes.
Os ydych yn gweithio gartref
Efallai y byddwch yn gallu hawlio cyfran o’ch costau am bethau fel:
-
costau gwresogi
-
costau trydan
-
Treth Gyngor
-
llog morgais neu rent
-
defnydd o’r rhyngrwyd a’r ffôn
Bydd angen i chi ddod o hyd i ddull rhesymol o rannu eich costau, er enghraifft drwy ystyried nifer yr ystafelloedd rydych yn eu defnyddio at ddibenion busnes neu faint o amser rydych yn ei dreulio’n gweithio gartref.
Enghraifft
Mae gennych 4 ystafell yn eich cartref, ac rydych yn defnyddio un o’r rheiny fel swyddfa’n unig.
Eich bil trydan am y flwyddyn yw £1120. Gan gymryd bod yr holl ystafelloedd yn eich cartref yn defnyddio symiau cyfartal o drydan, gallwch hawlio £280 fel treuliau caniataol (£1120 wedi ei rannu â 4).
Os ydych yn gweithio gartref am un diwrnod yr wythnos yn unig, gallech hawlio £40 fel treuliau caniataol (£280 wedi ei rannu â 7).
Treuliau symlach
Gallwch ddefnyddio treuliau symlach er mwyn osgoi defnyddio cyfrifiadau cymhleth i gyfrifo’ch treuliau busnes. Mae treuliau symlach yn gyfraddau unffurf y gellir eu defnyddio ar gyfer:
-
cerbydau
-
gweithio gartref
-
byw ar eich safle busnes