Treuliau car, fan a theithio

Os ydych yn hunangyflogedig - yn unig fasnachwr neu’n unigolyn mewn partneriaeth fusnes - gallwch hawlio treuliau busnes caniataol am gostau fel:

  • yswiriant cerbyd 

  • atgyweiriadau a gwasanaethu 

  • tanwydd 

  • parcio 

  • costau hurio 

  • toll ecséis cerbydau 

  • yswiriant torri i lawr

  • tocynnau trên, tocynnau bws, tocynnau tram, tocynnau awyren a chostau tacsi 

  • ystafelloedd gwesty 

  • prydau bwyd ar deithiau busnes dros nos

Ni allwch hawlio ar gyfer:

  • costau moduro a theithio nad ydynt yn gysylltiedig â’r busnes 

  • dirwyon neu gosbau

  • teithio rhwng cartref a’r gwaith

Efallai y byddwch yn gallu cyfrifo’ch treuliau car, fan neu feic modur gan ddefnyddio cyfradd unffurf (a elwir yn ‘treuliau symlach’) i gyfrifo’r milltiroedd yn lle cyfrifo’r costau gwirioneddol o brynu a rhedeg eich cerbyd.

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

Prynu cerbydau

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol ac yn prynu cerbyd ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gost y pryniant.

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) ac yn prynu car ar gyfer eich busnes, gallwch hawlio’r gost hon fel lwfans cyfalaf ar yr amod nad ydych yn defnyddio treuliau symlach.

Gallwch hawlio gost unrhyw fath arall o gerbyd fel traul ganiataol.