Swyddfa ac offer

Gallwch hawlio ar gyfer eitemau y byddech yn eu defnyddio am 2 flynedd neu lai fel treuliau caniataol, er enghraifft:

  • deunydd ysgrifennu
  • costau rhent, ardrethi, pŵer ac yswiriant

O ran yr offer yr ydych yn eu cadw i’w defnyddio yn eich busnes, er enghraifft cyfrifiaduron neu argraffwyr, gallwch eu hawlio fel:

Ni allwch hawlio ar gyfer unrhyw ddefnydd o’r safle, neu ddefnydd o’r ffonau neu adnoddau eraill o’r swyddfa os nad yw at ddibenion busnes.

Deunydd ysgrifennu

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer costau fel:

  • biliau ffôn, ffôn symudol, ffacs neu ryngrwyd
  • costau postio
  • deunydd ysgrifennu
  • costau argraffu
  • inc a chetris peiriant argraffu
  • meddalwedd gyfrifiadurol y mae’ch busnes yn ei defnyddio am lai na 2 flynedd
  • meddalwedd gyfrifiadurol os yw’ch busnes yn gwneud taliadau rheolaidd i adnewyddu’r drwydded (hyd yn oed os ydych yn defnyddio’r feddalwedd hon am fwy na 2 flynedd)

Gallwch hawlio meddalwedd arall ar gyfer eich busnes fel lwfansau cyfalaf, oni bai eich bod yn defnyddio cyfrifyddu ar sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF).

Costau rhent, ardrethi, pŵer ac yswiriant

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer costau fel:

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â CThEF.

Safle’r busnes

Os ydych yn adeiladu, prynu neu’n prydlesu strwythur, efallai y byddwch yn gallu hawlio lwfans strwythurau ac adeiladau.

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer atgyweirio a chynnal a chadw safle busnes ac offer.

O ran addasiadau er mwyn gosod offer, neu er mwyn eu disodli, gallwch eu hawlio fel:

Os ydych yn defnyddio cyfrifyddu traddodiadol, gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar gyfer rhai rhannau annatod o’r adeilad, er enghraifft systemau gwresogi dŵr

Os nad ydych yn siŵr p’un ai yw cost busnes yn draul ganiataol neu beidio, cysylltwch â CThEF.