Yr hyn y gallwch ei hawlio

Gallwch hawlio lwfansau cyfalaf ar eitemau rydych yn eu cadw i’w defnyddio yn eich busnes – gelwir y rhain yn ‘offer a pheiriannau’.

Yn y rhan fwyaf o achosion, gallwch ddidynnu costau llawn yr eitemau hyn oddi wrth eich elw cyn treth trwy ddefnyddio lwfans buddsoddi blynyddol (LBB).

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth, a bod gennych incwm o £150,000 neu lai y flwyddyn, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio system symlach o’r enw y sail arian parod (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.

Yr hyn nad yw’n cyfrif fel offer a pheiriannau

Ni allwch hawlio lwfansau offer a pheiriannau ar gyfer:

  • pethau rydych yn eu rhentu ar brydles (oni bai bod gennych gontract hurbwrcasu neu brydles ariannu hirdymor) – mae’n rhaid i chi berchen arnynt
  • eitemau sy’n cael eu defnyddio at ddiben adloniant y busnes yn unig, er enghraifft cwch hwylio neu beiriant karaoke
  • tir
  • strwythurau, er enghraifft pontydd, ffyrdd, dociau
  • adeiladau, gan gynnwys drysau, gatiau, caeadau, systemau nwy a dŵr o’r prif gyflenwad

Mae’n bosibl y gallwch hawlio lwfans strwythurau ac adeiladau ar gyfer strwythurau ac adeiladau.

Yr hyn sy’n cyfrif fel offer a pheiriannau

Mae offer a pheiriannau yn cynnwys:

  • eitemau rydych yn eu cadw i’w defnyddio yn eich busnes, gan gynnwys ceir
  • costau dymchwel offer a pheiriannau
  • rhannau o adeilad a ystyrir yn rhannau annatod, a elwir yn ‘nodweddion hanfodol’
  • rhai darnau gosod, er enghraifft ceginau neu ystafelloedd ymolchi wedi’u gosod
  • addasiadau i adeilad er mwyn gosod offer a pheiriannau – nid yw hyn yn cynnwys atgyweiriadau

Hawlio atgyweiriadau fel treuliau busnes (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth – didynnwch oddi wrth eich elw fel cost busnes os ydych yn gwmni cyfyngedig.

Nodweddion hanfodol

Nodweddion hanfodol yw:

  • lifftiau, grisiau symudol a llwybrau symudol
  • systemau gwresogi gofod a dŵr
  • systemau aerdymheru ac oeri’r aer
  • systemau dŵr poeth ac oer (ond nid cyfleusterau toiled a chegin)
  • systemau trydanol, gan gynnwys systemau goleuo
  • cysgod solar allanol

Darnau gosod

Gallwch hawlio am ddarnau gosod, er enghraifft:

  • ceginau gosod
  • switiau ystafelloedd ymolchi
  • systemau larwm tân a theledu cylch cyfyng

Gallwch hawlio os ydych yn rhentu neu’n berchen ar yr adeilad, ond dim ond y person a brynodd yr eitem a all hawlio.

Pan fyddwch yn prynu adeilad oddi wrth berchennog blaenorol busnes, gallwch ond hawlio am nodweddion hanfodol a darnau gosod y gwnaeth y perchennog blaenorol hawlio amdanynt.

Mae’n rhaid i chi gytuno ar werth y darnau gosod (yn agor tudalen Saesneg) gyda’r gwerthwr. Os na wnewch hynny, ni allwch hawlio amdanynt. Mae cytuno ar y gwerth hefyd yn golygu y gall y person sy’n gwerthu’r asedion (yn agor tudalen Saesneg) roi cyfrif cywir amdanynt.

Os ydych yn rhoi eiddo preswyl ar osod

Dim ond os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol y gallwch hawlio am eitemau sydd i’w defnyddio mewn eiddo preswyl:

  • rydych yn rhedeg busnes llety gwyliau wedi’i ddodrefnu
  • mae’r eitem i’w ddefnyddio yn y rhannau cyffredin o adeilad preswyl, er enghraifft bwrdd yng nghyntedd bloc o fflatiau

Gweithwyr gofal

Mae rheolau arbennig os ydych yn rhedeg busnes gofal (yn agor tudalen Saesneg).