Skip to main content

Gwariant llawn a lwfans blwyddyn gyntaf o 50%

Dim ond cwmnïau sy’n gallu hawlio lwfans gwariant llawn a’r lwfans blwyddyn gyntaf o 50%.

Gallwch eu hawlio yn erbyn cost offer a pheiriannau. Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn berthnasol i’r offer a pheiriannau:

  • wedi cael eu prynu ers 1 Ebrill 2023
  • maen nhw’n newydd a heb gael eu defnyddio
  • nid ydynt yn gar

Ni allwch hawlio’r ddau lwfans yn erbyn yr un gwariant.

Yr hyn y gallwch ei gael

Mae gwariant llawn yn gadael i chi ddidynnu 100% o’r gost o offer a pheiriannau cymhwysol oddi wrth eich elw cyn treth yn y flwyddyn y cawsant eu prynu.

Mae’r lwfans blwyddyn gyntaf o 50% yn gadael i chi ddidynnu 50% o’r gost oddi wrth eich elw cyn treth yn y flwyddyn y cawsant eu prynu.

Gwirio a allwch hawlio

Gwiriwch a allwch hawlio’r gwariant llawn neu’r lwfans blwyddyn gyntaf ar gyfradd arbennig o 50%.

Gallwch hawlio ar Ffurflen Dreth y Cwmni.