Hawlio lwfansau cyfalaf
Lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%
Os prynwch offer neu beiriannau sy’n gymwys ar gyfer lwfansau blwyddyn gyntaf o 100%, gallwch ddidynnu’r gost gyfan oddi wrth eich elw cyn treth.
Gallwch hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% yn ychwanegol at lwfans blwyddyn gyntaf arall neu lwfans buddsoddi blynyddol (AIA), ar yr amod nad ydych yn hawlio’r ddau am yr un gost.
Yr hyn sy’n gymwys
Gallwch ond hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% ar offer a pheiriannau penodol, hynny yw offer a pheiriannau newydd ac sydd heb eu defnyddio.
Os byddwch yn ei brynu cyn Ebrill 2027, gallwch hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf 100% ar y canlynol:
- ceir trydan a cheir heb allyriadau CO2
- offer ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydan
Os gwnaethoch ei brynu cyn Ebrill 2025, gallwch hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf 100% ar y canlynol:
- offer neu beiriannau ar gyfer gorsafoedd ail-lenwi â thanwydd nwy, er enghraifft tanciau storio, pympiau ac offer ail-lenwi â nwy, bio-nwy a hydrogen
- cerbydau nwyddau ag allyriadau sero
Os ydych chi’n gwmni sy’n buddsoddi mewn offer neu beiriannau
Gallwch hawlio lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% ar offer a pheiriannau i’w defnyddio mewn safle treth arbennig mewn Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi yn y DU.
Efallai y byddwch yn gallu hawlio gwariant llawn neu’r lwfans blwyddyn gyntaf o 50% hefyd. Ond ni allwch hawlio mwy nag un lwfans yn erbyn yr un gwariant.
Fel arfer, ni allwch hawlio ar gyfer eitemau y mae’ch busnes yn eu prynu i’w prydlesu i bobl eraill neu i’w defnyddio o fewn cartref rydych yn ei roi ar osod.
Sut i hawlio
Hawliwch ar eich Ffurflen Dreth.
Os na fyddwch yn hawlio’r holl lwfansau blwyddyn gyntaf o 100% y mae gennych hawl iddynt, gallwch hawlio’r rhan o’r gost nad ydych wedi’i hawlio gan ddefnyddio’r lwfansau ar bapur (yn agor tudalen Saesneg).